Llyfr Eseciel 39
1Proffwyda hefyd, fab dyn, yn erbyn Gog, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn dy erbyn di, Gog, pen-tywysog Mesech a Thubal.
2A mi a'th ddychwelaf, ac ni adawaf ohonot ond y chweched ran, ac a'th ddyg-af i fyny o ysdysau y gogledd, ac a'th ddygafar fynyddoedd Israel:
3Ac a drawaf dy fwa o'th law aswy, a gwnafi'th saethau syrthio o'th law ddeau.
4Ar fynyddoedd Israel y syrthi, tt a'th holl fyddinoedd, a'r bobloedd sydd gyda thi: i'r ehediaid, i bob rhyw aderyn, ac i fwystfilod y maes, y'th roddaf i'th ddifa.
5Ar wyneb y maes y syrthi; canys myfi a'i dywedais, medd yr Arglwydd DDUW.
6Anfonaf hefyd dan ar Magog, ac ymysg y rhai a breswyliant yr ynysoedd yn ddifraw; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.
7Felly y gwnaf adnabod fy enw sancr-sddd yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni adawaf halogi fy enw sanctaidd rowy; a'r cenhedloedd a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, y Sanct yn Israel.
8Wele efe & ddaeth, ac a ddarfu, medd yr Arglwydd DDUW; dyma y diwrnod am yr hwn y dywedais.
9A phreswylwyr dinasoedd Israel a ânt allan, ac a gyneuant ac a losgant yr arfau, a'r darian a'r astalch, y bwa a'r saethau, a'r llawffon a'r waywffbn; ie, Uosgant hwynt yn tân saith mlynedd.
10Ac ni ddygant goed o'r maes, ac ni thorrant ddim o'r coedydd; canys a'r arfau y cyneuant dan: a hwy a ysbeiliaat eu hysbeilwyr, ac a ysglyfaethant oddi ar eu hysglyfaethwyr, medd yr Arglwydd DDUW.
11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i mi roddi i Gog Ie bedd yno yn Israel, dyffryn y fforddolion o du dwyrain y môr: ac efe a gae ffroenau y fforddolion: ac yno y claddant Gog a'i holl dyrfa, a galwant ef Dyffryn Hamon-gog.
12A thŷ Israel fydd yn eu claddu hwynt saith mis, er mwyn glanhau y tir.
13Ie, holl bobl y tir a'u claddant; a hyn fydd enwog iddynt y dydd y'm gogonedder, medd yr Arglwydd DDOW.
14A hwy a neilltuant wyr gwastadol, y rhai a gyniweiriant trwy y wlad i gladdu gyda'r fforddolion y rhai a adawyd ar wyneb y ddaear, i'w glanhau hi: ymhen saith mis y chwiliant.
15A'r tramwywyr a gyniweiriant trwy y tir, pan welo un asgwrn dyn, efe a gyfyd nod wrtho, hyd oni chladdo y claddwyr ef yn nyffryn Hamon-gog.
16Ac enw y ddinas hefyd fydd Hamona. Felly y glanhant y wlad.
17Tithau fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dywed wrth bob rhyw aderyn, ac wrth holl fwystfilod y maes, Ymgesglwch, a deuwch; ymgynullwch oddi amgylch at fy aberth yi ydwyf fi yn ei aberthu i chwi, aberth mawr ar fynyddoedd Israel, fel y bwyt-aoch gig, ac yr yfoch waed.
18Cig y cedyrn a fwytewch, a chwi a yfwch waed tywysogion y ddaear, hyrddod, wyn, a bychod, bustych, yn basgedigion Basan oil.
19Bwytewch hefyd fraster hyd ddigon, ac yfwch waed hyd oni feddwoch, o'tn haberth a aberthai& i chwL
20Felly y'ch diwellir ar fy mwrdd i a meirch a cherbydau, a gwyr cedyrn a phob rhyfelwr, medd yr Arglwydd DDUW.
21A gosodaf fy ngogoniant ymysg y cenhedloedd, a'r holl genhedloedd a gant weled fy marnedigaeth yr hon a wneuthum, a'm llaw yr hon a osodais arnynt.
22A thŷ Israel a gant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu Duw hwynt o'r dydd hwnnw allan.
23Y cenhedloedd hefyd a gant wybod mai am eu hanwiredd eu nun y caethgludwyd ty Israel: oherwydd gwneuthur ohonynt gamwedd i'm herbyn, am hynny y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt, ac y rhoddais hwynt yn llaw eu gelynion: felly hwy a syrthiasant oll trwy y cleddyf.
24Yn ôl eu haflendid eu nun, ac yn ôl eu hanwireddau, y gwneuthum a hwynt, ac y cuddiais fy wyneb oddi wrthynt.
25Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Yr awr hon y dy-chwelaf gaethiwed Jacob, tosturiaf hefyd wrth holl dy Israel, a gwynfydaf dros fy enw sanctaidd;
26Wedi dwyn ohonynt eu gwarad-wydd, a'u holl gamweddau a wnaethant i'm herbyn, pan drigent yn eu tir eu hun yn ddifraw, a heb ddychrynydd.
27Pan ddychwelwyf hwynt oddi wrth y bobloedd, a'u casglu hwynt o wiedydd eu gelynion, ac y'm sancteiddier ynddynt yng ngolwg cenhedloedd lawer;
28Yna y cant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eu Duw hwynt, yr hwn a'u caethgludais hwynt ymysg y cenhed¬loedd, ac a'u cesglais hwynt i'w tir eu hun, ac ni adewais mwy un ohonynt yno.
29Ni chuddiaf chwaith fy wyneb mwy oddi wrthynt: oherwydd tywelltais fy ysbryd ar dy Israel, medd yr Arglwydd DDUW.