Llyfr Eseciel 35
1ADAETH gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2Gosod dy wyneb, fab dyn, tuag at fynydd Seir, a phroffwyda yn ei erbyn,
3A dywed wrtho, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi i'th erbyn di, mynydd Seir; estynnaf hefyd fy llaw i'th erbyn, a gwnaf di yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch.
4Gosodaf dy ddinasoedd yn ddiffeith¬wch, a thithau a fyddi yn anghyfannedd; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.
5Am fod gennyt alanastra tragwyddol, a thywallt ohonot waed meibion Israel a min y cleddyf, yn amser eu gofid, yn amser diwedd eu hanwiredd hwynt:
6Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, mi a'th wnafdi yn waed, a gwaed a'th ymlid di: gan na chasei waed, gwaed a'th ddilyn.
7Gwnaf hefyd fynydd Seir yn anrhaith ac yn ddiffeithwch; a thorraf ymaith ohono yr hwn a elo allan, a'r hwn a ddychwelo.
8Llanwaf hefyd ei fynyddoedd ef a'i laddedigion: yn dy fryniau, a'th ddyffrynnoedd, a'th holl afonydd, y syrth y rhai a laddwyd a'r cleddyf.
9Gwnaf di yn anrhaith tragwyddol, a'th ddinasoedd ni ddychwelant; fel y gwy-poch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
10Am ddywedyd ohonot, Y ddwy gcnedl a'r ddwy wlad hyn fyddant eiddof fl, a nyni a'i meddiannwn; er bod yr AKMI.WYDD yno:
11Am hynny fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, gwnaf yn ôl dy ddig, ac yn ul dy genfigen, y rhai o'th gas yn eu hcrbyn hwynt a wnaethost; fel y'm had-waener yn eu mysg hwynt, pan y'th farnwyf di.
12A chei wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD, ac i mi glywed dy holl gabledd a draethaist yn erbyn mynyddoedd Israel, gan ddywedyd, Anrheithiwyd hwynt, i ni y rhoddwyd hwynt i'w difa.
13Ymfawrygasoch hefyd a'ch geneuau yn fy erbyn i, ac amlhasoch eich geiriau i'm herbyn: mi a'u clywais.
14FelhynydywedyrArglwyddDDUW; Pan lawenycho yr holl wlad, mi a'th wnaf di yn anghyfannedd.
15Yn ôl dy lawenydd di am feddiant ty Israel, oherwydd ei anrheitbio, felly y gwnaf i tithau: anrhaith fyddi di, mynydd Seir, ac Edom oll i gyd; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.