Llyfr Eseciel 40
1YN y burned flwyddyn ar hugain o'n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y dcgted dydd o'r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddcg wedi taro y ddinas, o fewn corff y dydd hwnnw y daeth llaw yr ARGLWYDD amaf, at; a'm dug yno.,
2Yng ngweledigaethau Duw y dtig efe fi i dir Israel, ac a'm gosododd at fynydd uchel iawn, ac amo yr oedd megii adail dinas o du y deau.
3Ac efe a'm dug yno: ac wele ŵr a'? welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn Um, a chorsen fesur: ac yr ydoedd efe yn sefyll yn y porth.
4A dywedodd y gŵr wrthyf. Ha fab dyn, gwel a'th lygaid, gwrando hefyd a'th glustiau, a gosod dy galon ar yr hyn oll a ddangoswyf i tx: oherwydd er mwyn dangos i ti hyn y'th ddygwyd yma: mynega i dŷ Israel yr hyn oll a well.
5Ac wele fur o'r tu allan i'r ty o amgylch ogylch: a chorsen fesur yn llaw y gŵr, yn chwe chufydd o hyd, wrth gufydd a dyrnfedd: ac efe a fesurodd led yr adeiladaeth yn un gorsen, a'r uchder yn un gorsen.
6Ac efe a ddaeth i'r porth oedd a'i wyneb tua'r dwyrain, ac a ddringodd ar hyd ei risiau ef, ac a fesurodd riniog y porth yn un gorsen o led, a'r rhiniog arall yn un gorsen o led.
7A phob ystafell oedd un gorsen o hyd, ac un gorsen o led: a phum cufydd oedd rhwng yr ystafelloedd: a rhiniog y porth, wrth gyntedd y porth o'r tu mewn, oedd un gorsen.
8Efe a fesurodd hefyd gyntedd y porth oddi fewn, yn un gorsen.
9Yna y mesurodd gyntedd y porth yn wyth gufydd, a'i byst yn ddau gufydd, a chyntedd y porth oedd o'r tu mewn.
10Ac ystafelloedd y porth tua'r dwy-rain oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; un fesur oeddynt ill tair: ac un mesur oedd i'r pyst o'r tu yma ac o'r tu acw.
11Ac efe a fesurodd led drws y porth yn ddeg cufydd, a hyd y porth yn dri chufydd ar ddeg.
12A'r terfyn o flaen yr ystafelloedd oedd un cufydd o'r naill du, a'r terfyn o'r tu arall yn un cufydd; a'r ystafelloedd oedd chwe chufydd o'r tu yma, a chwe chufydd o'r tu acw.
13Ac efe a fesurodd y porth o nen y naill ystafell hyd nen un arall, yn bum cufydd ar hugain o led, drws ar gyfer drws.
14Ac efe a wnaeth byst o drigain cufydd, a hynny hyd host y cyntedd, o amgylch ogylch y porth.
15Ac o wyneb porth y dyfodiad i mewn, hyd wyneb cyntedd y porth oddi mewn, yr oedd deg cufydd a deugaui.
16A ffenestri cyfyng oedd i'r ystafell¬oedd, ac i'w pyst o fewn y porth o am¬gylch ogylch; ac felly yr oedd i'r bwau meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phal-mant wedi ei wneuthur i'r cyntedd o amgylch ogylch; deg ystafell ar hugain oedd ar y palmant.
18A'r palmant gan ystlys y pyrth ar gyfer hyd y pyrth, oedd y palmant oddi tanodd.
19Ac efe a fesurodd y lled o wyneb y porth isaf hyd wyneb y cyntedd oddi fewn, yn gan cufydd oddi allan tua'r dwyrain a'r gogledd.
20A'r porth yr hwn oedd a'i wyneb tua'r gogledd, ar y cyntedd nesaf allan, a fesurodd efe, ei hyd a'i led.
21A'i ystafelloedd ef oedd dair o'r tu yma, a thair o'r tu acw; ac yr ydoedd ei byst, a'i fwau meini, wrth fesur y porth cyntaf, yn ddeg cufydd a deugain eu hyd, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
22Eu ffenestri hefyd, a'u bwau meini, a'u palmwydd, oedd wrth fesur y porth oedd a'i wyneb tua'r dwyrain; ar hyd saith o risiau hefyd y dringent iddo; a'i fwau meini oedd o'u blaen hwynt.
23A phorth y cyntedd nesaf i mewn oedd ar gyfer y porth tua'r gogledd, a thua'r dwyrain: ac efe a fesurodd o borth i borth gan cufydd.
24Wedi hynny efe a'm dug i tua'r deau, ac wele borth tua'r deau, ac efe a fesurodd ei byst a'i fwau meini wrth y mesurau hyn.
25Ffenestri hefyd, oedd iddo ac i'w fwau meini, o amgylch ogylch, fel y ffenestri hynny, yn ddeg cufydd a deu¬gain o hyd, ac yn bum cufydd ar hugain o led.
26Saith o risiau hefyd oedd ei esgynfa ef, a'i fwau meini o'u blaen hwynt: yr oedd hefyd iddo balmwydd, un o'r tu yma, ac un o'r tu acw, ar ei byst ef.
27Ac yr oedd porth yn y cyntedd nesaf i mewn tua'r deau: ac efe a fesurodd o borth i borth, tua'r deau, gan cufydd.
28Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn trwy borth y deau: ac a fesurodd borth y deau wrth y mesurau hyn;
29A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwau meini, wrth y mesurau hyn; ac yr oedd ffenestri ynddo, ac yn ei fwau meini, o amgylch ogylch: deg cufydd a deugain oedd yr hyd, a phum cufydd ar hugain y lled.
30A'r bwau meini o amgylch ogylch oedd bum cufydd ar hugain o hyd, a phum cufydd o led.
31A'i fwau meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst; ac wyth o risiau oedd ei esgynfa ef.
32Ac efe a'm dug i'r cyntedd nesaf i mewn tua'r dwyrain: ac a fesurodd y porth wrth y mesurau hyn.
33A'i ystafelloedd, a'i byst, a'i fwau meini, oedd wrth y mesurau hyn: ac yr oedd ffenestri ynddo ef, ac yn ei fwau meini, o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled yn bum cufydd ar hugain.
34A'i fwau meini oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd oedd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
35y Ac efe a'm dug i borth. y gogledd, ac a'i mesurodd wrth y mesurau hyn:
36Ei ystafelloedd, ei byst, a'i fwau meini, a'r ffenestri iddo o amgylch ogylch: yr hyd oedd ddeg cufydd a deugain, a'r lled oedd bum cufydd ar hugain.
37A'i byst oedd tua'r cyntedd nesaf allan; a phalmwydd ar ei byst o'r tu yma, ac o'r tu acw; a'i esgynfa oedd wyth o risiau.
38A'r celloedd a'u drysau oedd wrth byst y pyrth, lle y golchent y poethoffrwm.
39Ac yng nghyntedd y porth yr oedd dau fwrdd o'r tu yma, a dau fwrdd o'r tu acw, i ladd y pocthoffrwm, a'r pech-aberth, a'r aberth dros gamwedd, arnynt.
40Ac ar yr ystlys oddi allan, lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.
41Pedwar bwrdd oedd o'r tu yma, a phedwar bwrdd o'r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.
42A'r pedwar bwrdd i'r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a'r aberth.It:: hwynt.
43Hefyd yr oedd bachau, o un ddymfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.
44Ac o'r tu allan i'r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a'u hwynebau oedd tua'r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, a'i wyneb tua'r gogledd.
45Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd a'i hwyncb tua'r deau, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth y ty.
46A'r ystafell yr hon sydd a'i hwyneb tua'r gogledd, sydd i'r offeiriaid, ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesau at yr ARGLWYDD i weini iddo.
47Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongi; a'r allor oedd o flaen y ty.
48Ac efe a'm dug i borth y tŷ, ac. a fesurodd bob post i'r porth, yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o'r naill du, a thri chufydd o'r tu arall.
49Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a'm dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o'r naill du, ac un o'r tu arall.