The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 43

1A efe a'm dug i'r porth, sef y porth sydd yn edrych tua'r dwyrain.

2Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a'i lais fel swn dyfroedd lawer, a'r ddaear yn disgleirio o'i ogoniant ef.

3Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas; a'r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb.

4A gogoniant yr ARGLWYDD a ddaeth i'r ty ar hyd ffordd y porth sydd a'i wyneb tua'r dwyrain.

5Felly yr ysbryd a'm cododd, ac a'M dug i'r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr ARGLWYDD y ty;

6Clywn ef befyd yn llefaru wrthyf o'r ty; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.

7Ac efe a ddywedodd wrthyf. Ha fab dyn, dyma Ie fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a'm benw sanctaidd ni haloga ty Israel mwy, na hwynt-hwy, na'u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu bren¬hinoedd yn eu huchel leoedd.

8Wrth osod cu rhimog wrth fy rhiniog i, a'u gorsm wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd a'u ffieidd-dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a'u hysais hwy yn fy llid.

9Fellhant yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragy¬wydd.

10Ti fab dyn, dangos y ty i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portrciad.

11Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddult y tŷ, a'i osodiad, a'i fynediadau allan, a'i ddyfodiadau i mewn, a'i holl ddull, a'i holl ddeddfau, a'i holl ddull, a'i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a'i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt.

12Dyma gyfraith y ty; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y ty.

13A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a'r lled yn gufydd, a'i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma Ie uchaf yr allor.

14Ac o'r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystol isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o'r ystol leiaf hyd yr ystol fwyaf, a chufydd o led.

15Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o'r allor y bydd hefyd tuag i fyny bed-war o gyrn.

16A'r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg i 5 led, yn ysgwar yn ei phedwar ystlys.

17A'r ystol fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a'r ymylwaith o am¬gylch iddi yn hanner cufydd; a'i gwaelod yn gufydd o amgylch: a'i grisiau yn edrych tua'r dwyrain.

18Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed ami.

19Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesau ataf fi, medd yr Arglwydd DDUW, i'm gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech-aberth.

20A chymer o'i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congi yr ystol, ac ar yr ymyi o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi.

21Cymeri hefyd fustach y pech-aberth, ac efe a'i llysg ef yn y lle nodedig i'r tŷ, o'r tu allan i'r cysegr.

22Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaithgwbl yn bech-aberth; a hwy a lanhant yr allor, megis y glanhasant hi a'r bustach.

23Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaithgwbl, a hwrdd perffaithgwbl o'r praidd.

24Ac o flaen yr ARGLWYDD yr offrymi hwynt; a'r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a'u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.

25Saith niwrnod y darperi fwch yn bech-aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o'r praidd, o rai ' perffaithgwbl.

26Saith niwmod y cysegrant yr allor, ac y glanhant hi, ac yr ymgysegrant.

27A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i'r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a'ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd DDUW.

← Llyfr Eseciel 42Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 44 →

Study Llyfr Eseciel 43

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748