The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 45

1Aphan rannoch y tir wrth goelbren t1- yn etifeddiaeth, yr offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm cysegredig o'r tir; yr hyd fydd pum mil ar hugain o gorsennau o hyd, a dengmil o led. Cysegredig fydd hynny yn ei holl derfyn o amgylch.

2O hyn y bydd i'r cysegr bum cant ar hyd, a phum cant ar led, yn bedeirongi oddi amgylch; a deg cufydd a deugain, yn faes pentrefol iddo o amgylch.

3Ac o'r mesur hwn y mesuri bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led; ac yn hwnnw y bydd y cysegr, a'r lle sancteidds iolaf.

4Y rhan gysegredig o'r tir fydd i'r offeiriaid, y rhai a wasanaethant y cys¬egr, y rhai a nesant i wasanaethu yr AB-GLWYDD; ac efe a fydd iddynt yn lle tar, ac yn gysegrfa i'r cysegr. i

5A'r pum mil ar hugain o hyd, a't dengmil o led, fydd hefyd i'r Lefiaid y rhai a wasanaethant y tŷ, yn etifeddiaeth ugain o ystafelloedd.

6Rhoddwch hefyd bum mil o led, a phum mil ar hugain o hyd, yn berchenog¬aeth i'r ddinas, ar gyfer offrwm y rhaa gysegredig: i holl dy Israel y bydd hyn.

7A rhan fydd i'r tywysog o'r tu yma ac o'r tu acw i offrwm y rhan gysegredig, ac i berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y rhan gysegredig, ac ar gyfer etifeddiaetb y ddinas, o du y gorllewin tua'r gorllewin, ac o du y dwyrain taa'indwyrain-Jai'tfnyd fydd ar gyfer pob un o'r rhannau, o derfyn y gorllewin hyd derfyn y dwyrain.

8Yn y tir y bydd ei etifeddiaeth ef yn Israel, ac ni orthryma fy nhywysogion fy mhobl i mwy; a'r rhan arall o'r tir a roddant i dŷ Israel yn ôl eu llwythau.

9Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Digon i chwi hyn, tywysogion Israel; bwriwch ymaith drawster a difrod, gwnewch hefyd farn a chyfiawnder, tynnwch ymaith eich trethau oddi ar fy mhobl; medd yr Arglwydd DDUW.

10Bydded gennych gloriannau uniawn, flc cffa uniawn, a bath uniawn.

11Bydded yr effa a'r bath un fesur; gan gynnwys o'r bath ddegfed ran homer, a'r effa ddegfed ran homer: wrth.yr homer y bydd eu mesur hwynt.

12Y sici fydd ugain gera: ugain sici,. a phum sici ar hugain, a phymtheg si<d, fydd mane i chwi.

13Dyma yr offrwm a offrymwch: chweched ran effa o homer o wenith; feU.y y rhoddwch chweched ran effa o homer a haidd.

14Am ddeddf yr olew, bath o olew, degfed ran bath a roddwch o'r corns, yr hyn yw homer o ddeg bath: oherwydd deg bath yw homer.

15Un milyn hefyd o'r praidd a offrym¬wch o bob deucant, allan o ddolydd Israel, yn fwyd-offrwm, ac yn boethoffrwm, ac yn aberthau hedd» i -wneuthur cymod drostynt, medd yf Arglwydd DDUW.

16Holl bobl y tir fyddant dan yi offrwm hwn i'r tywysog yn Israel.

17Ac ar y tywysog y bydd poethoffrwm, a bwyd-offrwm, a diod-offrwm ar yr uchel wyliau, a'r newyddloerau, a'r Sabothau, trwy holl osodedig wyliau ty Israel; efe a ddarpara bech-aberth, a bwyd-offrwm, a phoethoffrwm, ac aberth¬au hedd, i wneuthur cymod dros dy Israel.

18Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O fewn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf O'r mis, y cymeri fustach ieuanc perffaithgwbl, ac y puri y cysegr.

19Yna y cymer yr offeiriad o waed y pech-aberth, ac a'i rhydd ar orsingau y tŷ, ac ar bedair congi ystol yr allor, ac ar orsingau porth y cyntedd nesaf i mewn.

20Felly y gwnei hefyd ar y seithfed dydd o'r mis, dros y neb a becho yn amryfus, a thros yr ehud: felly y purwch yty.

21Yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd i chwi y pasg; gwyl fydd i chwi saith niwrnod: bara croyw a fwytewch.

22A'r tywysog a ddarpara ar y dydd hwnnw drosto ei hun, a thros holl bobliy wlad, fustach yn bech-aberth.

23A saith niwrnod yr wyl y darpara efe yn offrwm poeth i'r ARGLWYDD, saith o fustych, a saith o hyrddod perffaithgwbl, bob dydd o'r saith niwrnod; a bwch geifr yn bech-aberth bob dydd.

24Bwyd-offrwm hefyd a ddarpara efe, sef effa gyda phob bustach, ac effa gyda phob hwrdd, a hin o olew gyda'r effa.

25Yn y seithfed mis, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y gwna y cyffelyb ar yr wyl dros saith niwrnod; sef fel y pech-aberth, fel y poethoffrwm, ac fel y bwyd-offrwm, ac fel yr olew.

← Llyfr Eseciel 44Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 46 →

Study Llyfr Eseciel 45

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748