Llyfr Eseciel 1
1Adarfu yn y ddegfed flwyddyn ar hugain, yn y pedwerydd mis, ar y pumed dydd o'r mis, a mi ym mysg y gaethglud wrth afon Chebar, agoryd y nefoedd; a gwelwn weledigaethau DUW.
2Yn y pumed dydd o'r mis, honno oedd y bummed flwyddyn o gaethgludiad brenhin Jehoiachin,
3Y daeth gair yr ARGLWYDD yn eglur at Ezeciel yr offeiriad, mab Buzi, yn nhir y Caldeaid, wrth afon Chebar; ac yno y bu llaw yr ARGLWYDD arno ef.
4Yna yr edrychais, ac wele yn dyfod o'r gogledd gorwynt, a chwmmwl mawr, a thân yn ymgymmeryd, a disgleirdeb o amgylch iddo; ac o'i ganol, sef o ganol y tân, fel lliw ambr.
5Hefyd o'i ganol y daeth cyffelybrwydd i bedwar peth byw. A dyma eu hagwedd hwynt; Dull dyn oedd iddynt.
6A phedwar wyneb i bob un, a phedair aden i bob un o honynt.
7A'u traed yn draed uniawn; a gwadn eu traed fel gwadn troed llo; a gwreichioni yr oeddynt fel lliw efydd gloyw.
8Ac yr oedd dwylaw dyn oddi tan eu hadenydd, ar eu pedwar ystlys; eu hwynebau hefyd a'u hadenydd oedd ganddynt ill pedwar.
9Eu hadenydd hwynt oedd wedi en cysylltu y naill wrth y llall: pan gerddent, ni thröent; âent bob un yn uniawn rhag ei wyneb.
10Dyma ddull eu hwynebau hwynt; Wyneb dyn, ac wyneb llew, oedd ar y tu dehau iddynt ill pedwar: ac wyneb ŷch o'r tu aswy iddynt ill pedwar, ac wyneb eryr iddynt ill pedwar.
11Dyma eu hwynebau hwynt; a'u hadenydd oedd wedi eu dosparthu oddi arnodd, dwy i bob un wedi eu cyssylltu â'u gilydd, a dwy oedd yn cuddio eu cyrph.
12Aent hefyd bob un yn uniawn rhag ei wyneb; i'r lle y byddai yr yspryd ar fyned, yno yr âent; ni thröent pan gerddent.
13Dyma ddull y pethau byw; Eu gwelediad oedd fel marwor tân yn llosgi, ac fel gwelediad ffaglau: yr oedd efe yn ymgerdded rhwng y pethau byw, a disglair oedd y tân, a mellt yn dyfod allan o'r tân.
14Rhedai hefyd a dychwelai y pethau byw, fel gwelediad mellten.
15Edrychais hefyd ar y pethau byw: ac wele ar lawr yn ymyl y pethau byw un olwyn, gyd â'i bedwar wyneb.
16Dull yr olwynion a'u gwaith oedd fel lliw beryl: a'r un dull oedd iddynt ill pedair; a'u gwedd hwynt a'u gwaith fel pe byddai olwyn y'nghanol olwyn.
17Pan elent, âent ar eu pedwar ochr: ni thröent pan gerddent.
18Eu cantau hefyd oedd gyfuwch ag yr oeddynt yn ofnadwy: a'u cantau oedd yn llawn llygaid oddi amgylch ill pedwar.
19A phan gerddai y pethau byw, yr olwynion a gerddent wrthynt; a phan ymgodai y pethau byw oddi ar y ddaear, yr ymgodai yr olwynion.
20I'r lle y byddai yr ysbryd i fyned, yr aent, yno yr oedd eu hysbryd ar fyned,:, a'r olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwynt: canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.
21Cerddent pan gerddent hwythau, a -safent pan safent hwythau; a phan ymgodent hwy oddi ar y ddaear, yr olwynion a ymgodent ar eu cyfer hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd yn yr olwynion.
22Ac yr oedd ar bennau y pethau byw ddull y ffurfafen, fel lliw grisial ofnadwy, wedi ei hestyn dros eu pennau hwynt oddi arnodd.
23A than y ffurfafen yr oedd eu haden" ydd hwynt yn union, y naiU /iuag ar, y llall: dwy i bob un yn eu itfddio i»'r naill du, a dwy i bob un y& c;i/dio eu cyrff o'r tu arall. '
24A mi a glywn swn eu haadenydd hwynt, fel swn dyfroedd lawer, fel s' it yr Hollalluog, pan gerddent: swn llef-erydd, fel swn llu: pan safent, llaesent eu hadenydd.
25Ac yr oedd llais oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, pan safent, ac y llaesent eu hadenydd.
26Ac oddi ar y ffurfafen yr hon oedd ar eu pennau hwynt, yr oedd cyffelybrwydd gorseddfainc, fel gwelediad maen saffir; ac ar gyffelybrwydd yr orseddfainc yr oedd oddi arnodd arno ef gyffelybrwydd megis gwelediad dyn.
27Gwelais hefyd megis lliw ambr, fel gwelediad tan o'i fewn o amgylch: o welediad ei Iwynau ac uchod, ac o weled-iad ei Iwynau ac isod, y gwelais megis gwelediad tân, a disgleirdeb iddo oddi amgylch.
28Fel gwelediad y bwa a fydd yn y cwmwl ar ddydd glawog, fel hyn yr oedd gwelediad y disgleirdeb o amgylch. Dyma welediad cyffelybrwydd: gogoniant yr ARGLWYDD, A phan welaiSi syrthiais ar fy wyneb, a chlywais taisinn yn llefaru.