Llyfr Eseciel 4
1TITHAU fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o'th flaen, a llunia ami ddinas Jerwsalem:
2A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o'i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch.
3Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a'r ddinas; a" chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di ami. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel.
4Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd ty Israel ami; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt.
5Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phed»-war ugain: felly y dygi anwiredd ty Israel.
6A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd ty Jwda ddeugain niwrnod: pob diwmod am flwyddyn a roddais i ti.
7A chyfeiria dy wyneb at warchaeedig- ap.th Jerwsalem, a'th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi.
8Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, ncs gorffen ohonot ddyddiau dy warchae- edigaeth.
9Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorwedd¬ych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
10A'th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sici yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef.
11Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser.
12Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a'i cresi hi hefyd wrth dail torn dyn, yn eu gwydd hwynt.
13A dywedodd yr ARGLWYDD, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt.
14Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o'm hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i'm safn gig ffiaidd.
15Yntau a ddywedodd wrthyf, Wete, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle torn dyn, ac a hwynt y gwnei dy fara.
16Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod.:
17Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.;