The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 32

1A yn y deuddegfed mis o'r ddeu-ddegfed flwyddyn ar y dydd cyntaf o'r

2Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda'th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd a'th draed, a methraist eu hafonydd hwynt.,.

3Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat a chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a'th godant yn fy rhwyd i.

4Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear.

5Rhoddaf hct'yd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd a'th uchder di.

6Mwydaf hefyd a'th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot.

7Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu ser hwynt: yr haul a guddiaf a chwmwl, a'r lleuad ni wna i'w goleuni oleuo.

8Tywyllaf amat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd DDUW.

9A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhed¬loedd i diroedd nid adnabuost.

10A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a'u brenhinoedd a ofnant yn fawr o'th blegid, pan wnelwyf i'm cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11Canys fel hyn y dywed yr Ar¬glwydd: DDUW; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti.

12A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a'i holl liaws hi a ddinistrir.

13Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt.

14Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfr¬oedd hwynt, a gwnaf i'w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd DDUW.;

15Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o'i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cant wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

16Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oil, medd yr Arglwydd DDUW.

17Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

18Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i'r tir isaf, gyda'r rhai a ddisgyn¬nant i'r pwll.

19Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda'r rhai dienwaededig.

20Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd a'r cleddyf: i'r cleddyf y rhodd-wyd hi; llusgwch hi a'i lliaws oil.

21Llefared cryfion y cedym wrthi hi o ganol uffern gyda'i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaed¬edig, wedi eu lladd a'r cleddyf.

22Yno y mae Assur a'i holl gynulleidfa, a'i feddau o amgylch; wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf.

23Yr hon y rhoddwyd eu beddau ya' ystlysau y pwll, a'i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasattt arswyd yn nhir y rhai byw.

24Yno y mae Elam a'i holl liaws 6 amgylch ei bedd, wedi eu lladd oil, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i'r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn rihir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.;

25Yng nghanol y rbai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd a'i holl liaws; a'i beddau o'i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd a'r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef.

26Yno y mae Mesech, Tubal, a'i hoB liaws; a'i beddau o amgylch: y rhai hyntty oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd a'r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw.

27Ac ni orweddant gyda'r cedyrn a syrthiasant o'r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern a'u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennant eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgym hwy, er eu bod yn arswyd i'r cedym ya nhir y rhai byw.

28A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf.

29Yno y mae Edom, a'i brenhinoedd., a'i holl dywysogion, y rhai a roddwyd a'u cadernid gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf: hwy a orweddant gyda'r rhai dienwaededig, a chyda'r rhai a ddisgyn¬nant i'r pwll.

30Yno y mae hoil dywysogion y gogledd, a'r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda'r lladdedigion; gyda'u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorwedd¬ant hefyd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd a'r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.

31Pharo a'u gwel hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a'i holl lu wedi eii lladd a'r cleddyf, medd yr Arglwydd DDUW.

32Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol ' y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i'w holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.

← Llyfr Eseciel 31Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 33 →

Study Llyfr Eseciel 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748