The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 25

1Agair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt;

3A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr ARGLWYDD DDUW; Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am ddywedyd ohonot. Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn ty Jwda, pan aethant mewn caethglud:

4Am. hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o'th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth.

5Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.

6Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot a'th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon a'th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel;

7Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a'th roddaf yn fwyd i'r cenhedloedd, ac a'th dorrafymaith o fysg y bobloedd, ac a'th ddifethaf o'r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr ARGLWYDD.

8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dy Jwda fel yr holl genhedloedd:

9Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o'r dinasoedd, o'i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Bethjesimoth, Baal-meon, a Ciriathaim,

10I feibion y dwyrain ynghyd a meibion Ammon, a rhoddafhwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd.

11Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

12Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am i Edom wneuthur yn erbyh, ty Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt;

13Am hynny, medd yr ARGLWYDD DDUW, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a'r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf.

14A rhoddaf fy nialedd ar yr Edom-iaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnant ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15y Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Am wneuthur o'r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i'w dinistrio am yr hen gas;

16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr.

17A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chant wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan roddwyf fy nialedd arnynt.

← Llyfr Eseciel 24Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 26 →

Study Llyfr Eseciel 25

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748