The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 9

1E.EFODD hefyd a llef uchel lle y clywais. gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesau, a phob un a'i arf dinistr yn ei law.

2Ac wele chwech o wyr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua'r gogledd, a phob un a'i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo a lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. '

3A gogoniant Duw Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y ty. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo a lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun:

4A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS trwy ganol y ddinas, trwy ganol Jerwsalem, a noda nod ar daloennau y dynion sydd yn ucheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wneir yn ei chanol hi.

5Ac wrth y lleill y dywedodd efe lle y clywais, Ewch trwy y ddinas ar ei ôl ef, a threwch; nac arbeded eich llygad, ac na thosturiwch.

6Lleddwch yn farw yr henwr, y gŵr ieuanc, a'r forwyn, y plant hefyd, a'r gwragedd; ondna ddeuwch yn agos at un gŵr y byddo'r nod arno: ac ar fy nghysegr y dechreuwch. Yna y dechreuasant ar y gwŷr hen, y rhai oedd o flaen y ty.

7Dywedodd wrthynt hefyd, Halogwch y tŷ, a llenwch y cynteddoedd o rai lladdedig: ewch allan. Felly hwy a aethant allan, ac a drawsant yn y ddinas.

8A bu, a hwy yn lladd, a'm gado innau, i mi syrthio ar fy wyneb, a gweiddi, a dywedyd, O ARGLWYDD DDUW, a ddifethi di holl weddill Israel, wrth dywallt dy lid ar Jerwsalem?

9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Anwiredd ty Israel a thŷ Jwda sydd fawr dros ben; a llawn yw y tir o waed, a llanwyd y ddinas o gamwedd: oherwydd dywedant, Gwrthododd yr ARGLWYDD y ddaear, ac nid yw yr ARGLWYDD yn gweled.

10Ac amdanaf fi, nid erbyd fy llygad, ac ni thosturiaf; rhoddaf eu ffordd eu hun ar eu pennau.

11Ac wele, y gŵr wedi ei wisgo a lliain, yr hwn yr oedd y corn du wrth ei glun, yn dwyn gair drachefn, gan ddy¬wedyd, Gwneuthum fel y gorchmynnaist i mi.

← Llyfr Eseciel 8Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 10 →

Study Llyfr Eseciel 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748