Llyfr Eseciel 31
1A yn y trydydd mis o'r unfed flwyad-yn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2Dywed, fab dyn, wrfh Pharo hrenin yr Aifft, ac wrth ei liaws» J bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?;
3Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn dcg ei cheinciau, a'i brig yai cysgodi, ac yn uchel ei huchder,..a'i brigyn oedd rhwng y tcwfrig.
4Dyfroedd a'i maethasai hi, y dyfnde? a'i dyrchafasai, a'i hafonydd yn cerddedio amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd,-di ffrydiau at holl goed y maes.
5Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi-gotuwehAoll goad sy macs, al cheinciau a amlhasant, a'i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan.
6Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd Iluosog a eisteddent dan ei chysgod hi.
7Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer.
8Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i'w cheinciau hi, a'r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch.
9Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.
10Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Oherwydd ymddyr-chafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyr-chafu ei chalon yn ei huchder;
11Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am. ei drygioni y bwriais hi allan.
12A dieithriaid, rhai ofnadwy y cen¬hedloedd, a'i torasant hi ym aith, ac a'i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a'i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o'i chysgod hi, ac a'i gadawsant hi.
13Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi;
14Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghano'l meibion dynion, gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll.
15Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dirpw; Yn y -dydd y disgynnodd hi fr bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum. i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y macs lesmair amdani hi.
16Gan swn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddis-gyn i uffern gyda'r rhai a ddisgynnant i'r pwll; a holl goed Eden, y dewis a'r gorau yn Libanus, y dyfradwy oil, a ymgysurant yn y tir isaf.
17Hwythau hefyd gyda hi a ddisgyn¬nant i uffern at laddedigion y cleddyf, a'r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.
18I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i'r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigiony cleddyf. Dyma Pharo a'i holl liaws, medd yr Arglwydd DDUW.