The Bible Software
Llyfr Eseciel · Beibl (1620)

Llyfr Eseciel 13

1Agair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

2Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proff-wydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o'u calon eu hun, Gwrandewch air yr AR¬GLWYDD.

3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.

4Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.

5Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y. rhyfel ar ddydd yr ARGLWYDD.

6Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.

7Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr ARGLWYDD a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?

8Am hynny, fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i'ch erbyn, medd yr AR¬GLWYDD DDUW.

9A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen ty Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD DDUW.

10O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo a chlai heb ei dymheru.

11Dywed wrth y rhai a'i priddant a phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a'i rhwyga.

12Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthychi Mae y clai a'r hwn y priddasoch ef?

13Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW, Minnau a'i rhwygaf a gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i'w ddifetha.

14Felly y bwriafi lawr y pared a briddasoch a phridd heb ei dymheru, ac a'i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD.

15Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a'i priddasant a phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na'r rhai a'i pridd¬asant:

16Sef proffwydi Israel, y rhai a broff¬wydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr ARGLWYDD DDUW.

17y Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o'u calon eu hun; a phroff-wyda yn eu herbyn hwynt,

18A dywed, Fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl', a'r rhai a weithiant foledau am ben pot( corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddel atoch?

19Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandaw-ent gelwydd?

20Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, a'r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg.

21Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o'ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

22Am dristau calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o'i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes;

23Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o'ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr AR¬GLWYDD.

← Llyfr Eseciel 12Read In The App, Free →Llyfr Eseciel 14 →

Study Llyfr Eseciel 13

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748