Llyfr Eseciel 21
1Adaeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
2Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua'r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel,
3A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi i'th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o'i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn.
4Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac flnghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o'i wain yn erbyn pob cnawd, o'r deau hyd y gogledd;
5Fel y gwypo pob cnawd i mi yr ARGLWYDD dynnu fy nghleddyf allan o'i wain: ni ddychwel efe mwy.
6Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod Iwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt.
7A bydd, pan ddywedant wrthyt. Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddy¬wedyd ohonot. Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oil, ac y pallo pob ysbryd, a'r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr ARGLWYDD DDUW
8A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
9Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd.
10Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddiaglair: a lawen-ychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren.
11Ac efe a'i rhoddes i'w loywi, i'w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i'w roddi yn llaw y lleiddiad.
12Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd.
13Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.
14Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i'w hystafelloedd hwynt.
15Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd!
16DOS ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb.
17Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr ARGLWYDD a'i lleferais.
18g A daeth gair yr ARGLWYDD atai, gan ddywedyd,
19Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis Ie, y» mhen ffordd y ddinas y dewisi ef.
20Gosod ffordd i ddyfod o'r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a ttma Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog.
21Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewimo dewimaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd S dclwau, edrychodd mewn afu.
22Yn ei law ddcau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safh mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn -erbyn y pyrth, i twrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa.
23A hyn fydd ganddynt, fel dewirdo dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, jfl rhai a dyngasarit Iwon: ond efe « igofia yr anwiredd, i'w dal hwynt.
24Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD DDUW, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y'ch delir a llaw.
25Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd,
26Fel hyn y dywed yr ARGLWYDB DDUW; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel.
27Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd m ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.
28Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD -DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb:
29Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i'th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.
30A ddychwelaf fi ef i'w wain? yn y lle y'th grewyd, yn nhir dy gynefin, y'th famaf.
31A thywalltaf fy nicllonedd a -nat, a than fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.
32I'r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni'th gofir mwyach: canys myfi yr ARGLWYDD a'i dywedais.