The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 40

1Cwmmwl yn gor­chuddio y babell. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod.

3A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia yr arch â’r wahanlen.

4Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll­bren, a goleua ei lampau ef.

5Gosod hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron arch y dys­tiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl.

6Dod hefyd allor y poeth-offrwm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod.

7Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr.

8A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa.

9A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chyssegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd.

10Enneinia hefyd allor y poeth-offrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gyssegri: a hi a fydd yn allor sancteidd­iolaf.

11Enneinia y noe a’i throed, a sanc­teiddia hi.

12A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr.

13A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac enneinia ef, a sanc­teiddia ef, i offeir­iadu i mi.

14Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau.

15Ac enneinia hwynt, megis yr enneiniaist eu tad hwynt, i offeir­iadu i mi: felly bydd eu hennein­iad iddynt yn offeir­iadaeth dragy­wyddol, trwy eu cenhed­laethau.

16Felly Moses a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchy­mynodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17¶ Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl.

18A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fynu ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau;

19Ac a ledodd y babell-lèn ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell-lèn arni oddi arnodd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20¶ Cymmerodd hefyd a rhoddodd y dystiol­aeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugaredd­fa i fynu ar yr arch.

21Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiol­aeth; megis y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22¶ Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du y gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen.

23Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, ger bron yr Arglwydd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24¶ Ac efe a osododd y canhwyll­bren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du y dehau.

25Ac efe a oleuodd y lampau ger bron yr Arglwydd; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26¶ Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen.

27Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth peraidd; megis y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28¶ Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl.

29Ac efe a osododd allor y poeth-offrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrym­modd arni boeth-offrwm a bwyd-offrwm; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30¶ Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.

31A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylaw a’u traed.

32Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesâent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchy­mynasai yr Arglwydd wrth Moses.

33Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorphen­odd Moses y gwaith.

34¶ Yna cwmmwl a orchudd­iodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl.

35Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi y tabernacl.

36A phan gyfodai y cwmmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynai meibion Israel i’w holl deithiau.

37Ac oni chyfodai y cwmmwl, yna ni chychwyn­ent hwy hyd y dydd y cyfodai.

38Canys cwmmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, y’ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.

← Llyfr Exodus 39Read In The App, Free →Leviticus 1 →

Study Llyfr Exodus 40

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940