The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 10

1Annog i ufudd-dod. Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fynu attaf fi i’r mynydd, a gwna i ti arch bren.

2A mi a ysgrifenaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod tithau hwynt yn yr arch.

3Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fynu i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw.

4Ac efe a ysgrifenodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y Dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymmanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt attaf fi.

5Yna y dychwelais, ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchymynodd yr Arglwydd i mi.

6¶ A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Moserah: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleazar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef.

7Oddi yno yr aethant i Gudgodah; ac o Gudgodah i Jotbath, tir afonydd dyfroedd.

8¶ Yr amser hwnnw y neillduodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfammod yr Arglwydd, i sefyll ger bron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn.

9Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyd â’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef.

10A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd: ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di.

11A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.

12¶ Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid,

13Cadw gorchymynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti?

14Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi.

15Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt: ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hol hwynt, sef o honoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddyw y gwelir.

16Enwaedwch chwithau ddïenwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwarr mwyach.

17Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymmer wobr.

18Yr hwn a farna yr amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi y dïeithr, gan roddi iddo fwyd a dillad.

19Hoffwch chwithau y dïeithr: canys dïeithriaid fuoch yn nhir yr Aipht.

20Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi.

21Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw, yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid.

22Dy dadau a aethant i waered i’r Aipht yn ddeg enaid a thri ugain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o lïosowgrwydd.

← Llyfr Deuteronomium 9Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 11 →

Study Llyfr Deuteronomium 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334