The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 19

1Cospedigaeth gau dyst. Pan Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu o honot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai;

2Neilldua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu.

3Parottoa ffordd i ti, a thraiana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.

4¶ Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffŷ yno, i fyw: yr hwn a darawo ei gymmydog heb wybod, ac yntau neb ei gasâu ef o’r blaen;

5Megis pan elo un gyd â’i gymmydog i’r coed i gymmynu pren, ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haiarn o’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymmydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw:

6Rhag i ddïalydd y gwaed ddilyn ar ol y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasâu ef o’r blaen.

7Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilldui i ti.

8A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;

9Os cedwi y gorchymynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddyw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:

10Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.

11¶ Ond os bydd gwr yn casâu ei gymmydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddïeneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn;

12Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymmerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dïalydd y gwaed, fel y byddo farw.

13Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.

14¶ Na symmud derfyn dy gymmydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen; o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu.

15¶ Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.

16¶ Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;

17Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt ger bron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.

18Ac ymofyned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;

19Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd; a thyn ymaith y drwg o’th fysg.

20A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ol y peth drygionus hyn yn dy blith.

21Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.

← Llyfr Deuteronomium 18Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 20 →

Study Llyfr Deuteronomium 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334