Llyfr Deuteronomium 14
1Degwm y drydedd flwyddyn yn elusen. Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mo honoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw.
2Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3¶ Na fwytta ddim ffiaidd.
4Dyma yr anifeiliaid a fwyttêwch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr,
5Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwŷllt, a’r unicorn, a’r ŷch gwŷllt, a’r afr wŷllt.
6A phob anifail yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ym mysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwyttêwch.
7Ond hyn ni fwyttêwch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarn og, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi yr ewin, aflan ydynt i chwi,
8Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi yr ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9¶ Hyn a fwyttêwch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chèn a fwyttêwch.
10A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chèn, ni fwyttêwch: aflan yw i chwi.
11¶ Pob aderyn glân a fwyttêwch.
12A dyma y rhai ni fwyttêwch o honynt: yr eryr, a’r wŷdd-walch, a’r fôr-wennol,
13A’r bod, a’r barcut, a’r fwltur yn ei rhyw,
14A phob cigfran yn ei rhyw,
15A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw,
16Aderyn y cyrph, a’r dylluan, a’r gogfran,
17A’r pelican, a’r bïogen, a’r fulfran,
18A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum.
19A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwyttâer hwynt.
20Pob ehediad glân a fwyttêwch.
21¶ Na fwyttêwch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dïeithr fyddo yn dy byrth, a bwyttâed ef; neu gwerth ef i’r dïeithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fỳn yn llaeth ei fam.
22Gan ddegymmu degymma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn.
23A bwytta ger bron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf-anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser.
24A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ym mhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw:
25Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:
26A dod yr arian am yr hyn oll a chwennycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddïod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwytta yno ger bron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu.
27A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyd â thi.
28¶ Ym mhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth.
29A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyd â thi,) a’r dïeithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwyttânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.