The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 30

1Gosod angau ac einioes o flaen y bobl. A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felldith, y rhai a roddais o’th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di attynt;

2A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid:

3Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymmer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di.

4Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y’th gymmerai.

5A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau.

6A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael o honot fyw.

7A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felldithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di.

8Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchymynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw.

9A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau;

10Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchymynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid.

11¶ O herwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell.

12Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd o honot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

13Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd o honot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef?

14Canys y gair sydd agos iawn attat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.

15¶ Wele, rhoddais o’th flaen heddyw einioes a daioni, ac angau a drygioni:

16lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddyw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchymynion, a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddech fyw, ac y’th amlhâer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu.

17Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymmu i dduwiau dïeithr, a’u gwasanaethu hwynt;

18Yr wyf yn mynegi i chwi heddyw, y difethir chwi yn ddïau, ac nad estynwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchennogi.

19Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddyw y nefoedd a’r ddaear, roddi o honof o’th flaen di einioes ac angau, bendith a melldith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had;

20I garu o honot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigech yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.

← Llyfr Deuteronomium 29Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 31 →

Study Llyfr Deuteronomium 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334