The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 23

1a chamweddau. Na ddeued neb wedi ysigo ei -eirin, na dispaidd, i gynnulleidfa yr Arglwydd.

2Na ddeued basterdyn i gynnulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynnulleidfa yr Arglwydd.

3Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynnulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd o honynt na ddeued i gynnulleidfa yr Arglwydd byth:

4Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aipht; ac o achos cyflogi o honynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felldithio di.

5Etto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrandaw ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felldith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi.

6Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.

7¶ Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Aiphtiad; o herwydd dïeithr fuost yn ei wlad ef.

8Deued o honynt i gynnulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.

9¶ Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion, yna ymgadw rhag pob peth drwg.

10¶ O bydd un o honot heb fod yn lân, o herwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll.

11Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo yr haul, deued i fewn y gwersyll.

12¶ A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr âi di allan.

13A bydded gennyt raw-ffon ym mysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio o honot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt.

14O herwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ym mhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.

15¶ Na ddyro at ei feistr was a ddïangodd attat oddi wrth ei feistr.

16Gyd â thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.

17¶ Na fydded puttain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel.

18Na ddwg wobr puttain, na gwerth ei, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.

19¶ Na chymmer occraeth gan dy frawd; occraeth arian, occraeth bwyd, occraeth dim y cymmerir occraeth am dano.

20Gan estron y cymmeri occraeth; ond na chymmer occraeth gan dy frawd: fel y bcndithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu.

21¶ Pan addunedech adduned i’r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot.

22Ond os peidi âg addunedu, ni bydd pechod ynot.

23Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau.

24¶ Pan ddelych i winllan dy gymmydog, yna bwytta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un. Pan ddelych i ŷd dy gymmydog, yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod crymman yn ŷd dy gymmydog.

← Llyfr Deuteronomium 22Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 24 →

Study Llyfr Deuteronomium 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334