The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 31

1Moses yn rhybuddio y bobl o’u hanufudd-dod i Dduw, wedi ei farwolaeth ef. A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;

2Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddyw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.

3Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinystria y cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd.

4A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinystriodd efe.

5A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ol yr holl orchymynion a orchymynais i chwi.

6Ymgryfhêwch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyd â thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.

7¶ A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho y’ngolwg holl Israel, Ymgadarnhâ, ac ymnertha: canys ti a âi gyd â’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyd â thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrhâ.

9¶ A Moses a ysgrifenodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfammod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel.

10A Moses a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ol pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar wyl y pebyll,

11Pan ddelo holl Israel i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

12Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dïeithr- ddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

13Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

14¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch ger bron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchymynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant ger bron ym mhabell y cyfarfod.

15A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmmwl: a’r golofn gwmmwl a safodd ar ddrws y babell.

16¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyd â’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a butteiniant ar ol duwiau dïeithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyrr fy nghyfammod a wneuthum âg ef.

17A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyttêir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?

18Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dïeithr.

19Ysgrifenwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fd y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.

20Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwyttao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dïeithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddymma fy nghyfammod.

21Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: o herwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddyw, cyn dwyn o honof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

22¶ A Moses a ysgrifenodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.

23Efe a orchymynodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfhâ, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyd â thi.

24¶ A phan ddarfu i Moses ysgrifenu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;

25Yna y gorchymynodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, gan ddywedyd,

26Cymmerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.

27Canys mi a adwaen dy wrth-nysigrwydd, a’th wàr-galedrwydd: wele, a myfi etto yn fyw gyd â chwi heddyw, gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?

28Cesglwch attaf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymmerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.

29Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchymynais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diweddaf; am y gwnewch ddrygioni y’ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylaw.

30A llefarodd Moses lle y clybu holl gynnulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.

← Llyfr Deuteronomium 30Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 32 →

Study Llyfr Deuteronomium 31

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334