Llyfr Deuteronomium 5
1Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
2Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfammod â ni yn Horeb.
3Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfammod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddyw.
4Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân,
5(Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynech i’r mynydd,) gan ddywedyd,
6Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
7Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
8Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear:
9Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt;
10Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
11Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dïeuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
12Cadw y dydd Sabbath i’w sancteiddio ef, fel y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
13Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith:
14Ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ŷch, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddïeithrddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorphwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun.
15A chofia mai gwas a fuost ti y’ngwlad yr Aipht, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Sabbath.
16¶ Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estyner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
17Na ladd.
18Ac na wna odineb.
19Ac na ladratta.
20Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
21Ac na chwennych wraig dy gymmydog, ac na chwennych dŷ dy gymmydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ŷch, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymmydog.
22¶ Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifenodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes attaf fi.
23A darfu, wedi clywed o honoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch attaf, sef holl bennaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi;
24Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddyw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw o hono.
25Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn.
26Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw?
27Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandâwn, ac a wnawn hynny.
28A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant.
29O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchymynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragywyddol!
30Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll.
31Ond saf di yma gyd â myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchymynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnant hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchennogi.
32Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchymynodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
33Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchymynodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.