Llyfr Deuteronomium 26
1Y cyfammod rhwng Dow a’r bobl. A phan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo;
2Yna cymmer o bob blaen-ffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo:
3A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddyw i’r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni.
4A chymmered yr offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaan allor yr Arglwydd dy Dduw:
5A llefara dithau, a dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.
6A’r Aiphtiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled.
7A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder.
8A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aipht a llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac âg ofn mawr, ac âg arwyddion, ac â rhyfeddodau.
9Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaen-ffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef ger bron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola ger bron yr Arglwydd dy Dduw.
11Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r ddïeithr a fyddo yn dy fysg.
12¶ Pan ddarffo i ti ddegymmu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn, sef blwyddyn y deg wm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwyttaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt.
13A dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cyssegredig allan o’m tŷ, ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw, yn ol dy holl orchymynion a orchymynaist i mi: ni throseddais ddim o’th orchymynion, ac nis anghofiais.
14Ni fwytteais o hono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith o hono i aflendid, ac ni roddais o hono dros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ol yr hyn oll a orchymynaist i mi.
15Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o’r nefoedd, a bendithia dy bold Israel, a’r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
16¶ Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
17Cymmeraist yr Arglwydd heddyw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchymynion, a’i farnedigaethau, ac i wrandaw ar ei lais ef.
18Cymmerodd yr Arglwydd dithau heddyw i fod yn bobl brïodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw o honot ei holl orchymynion:
19Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod o honot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.