Llyfr Deuteronomium 2
1ond gorchfygu a wnaethant Sehon yr Amoriad. Yna y troisom, ac yr aethom i’r anialwch, ar hyd ffordd y môr coch, fel y dywedasai yr Arglwydd wrthyf, ac a amgylchasom fynydd Seir ddyddiau lawer.
2Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrthyf, gan ddywedyd,
3Digon i chwi amgylchu y mynydd hwn hyd yn hyn; ymchwelwch rhagoch tu a’r gogledd.
4A gorchymyn i’r bobl, gan ddywedyd, Yr ydych i dramwyo trwy derfynau eich brodyr, meibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir: a hwythau a ofnant rhagoch: ond ymgedwch yn ddyfal.
5Nac ymyrrwch arnynt: o herwydd ni roddaf i chwi o’u tir hwynt gymmaint a lled troed; canys yn etifeddiaeth i Esau y rhoddais fynydd Seir;
6Prynwch fwyd ganddynt am arian, fel y bwyttaoch: a phrynwch hefyd ddwfr ganddynt am arian, fel yr yfoch.
7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi; ni bu arnat eisieu dim.
8Ac wedi ein myned heibio oddi wrth ein brodyr, meibion Esau, y rhai ydynt yn trigo yn Seir, o ffordd y rhos o Elath, ac o Esion-Gaber, ni a ddychwelasom, ac a aethom ar hyd ffordd anialwch Moab.
9A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Na orthrymma Moab, ac nac ymgynnull i ryfel yn eu herbyn hwynt: oblegid ni roddaf i ti feddiant o’i dir ef; o herwydd i feibion Lot y rhoddais Ar yn etifeddiaeth.
10(Yr Emiaid o’r blaen a gyfanneddasant ynddi; pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid;
11Yn gawri y cymmerwyd hwynt hefyd, fel yr Anaciaid; a’r Moabiaid a’u galwent hwy yn Emiaid.
12Yr Horiaid hefyd a breswyliasant yn Seir o’r blaen; a meibion Esau a ddaeth ar eu hol hwynt, ac a’u difethasant o’u blaen, a thrigasant yn eu lle hwynt, fel y gwnaeth Israel i wlad ei etifeddiaeth yntau, yr hon a roddes yr Arglwydd iddynt.)
13Yna y dywedais, Cyfodwch yn awr, a thramwywch rhagoch dros afon Zared. A ni a aethom dros afon Zared.
14A’r dyddiau y cerddasom o Cades-Barnea, hyd pan ddaethom dros afon Zared, oedd onid dwy flynedd deugain; nes darfod holl genhedlaeth y gwŷr o ryfel o ganol y gwersyllau, fel y tyngasai yr Arglwydd wrthynt.
15Canys llaw yr Arglwydd ydoedd yn eu herbyn hwynt, i’w torri hwynt o ganol y gwersyll, hyd oni ddarfuant.
16¶ A bu, wedi darfod yr holl ryfelwyr a’u marw o blith y bobloedd,
17Lefaru o’r Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd,
18Tydi heddyw wyt ar fyned trwy derfynau Moab, sef trwy Ar:
19A phan ddelech di gyferbyn â meibion Ammon, na orthrymma hwynt, ac nac ymyrr arnynt; oblegid ni roddaf feddiant o dir meibion Ammon i ti; canys rhoddais ef yn etifeddiaeth i feibion Lot.
20(Yn wlad cawri hefyd y cyfrifwyd hi: cawri a breswyliasant ynddi o’r blaen; a’r Ammoniaid a’u galwent hwy yn Zamzummiaid:
21Pobl fawr ac aml, ac uchel, fel yr Anaciaid, a’r Arglwydd a’u difethodd hwynt o’u blaen hwy; a hwy a ddaethant ar eu hol hwynt, ac a drigasant yn eu lle hwynt.
22Fel y gwnaeth i feibion Esau, y rhai sydd yn trigo yn Seir, pan ddifethodd efe yr Horiaid o’u blaen, fel y daethant ar eu hol hwynt, ac y trigasant yn eu lle hwynt, hyd y dydd hwn;
23Felly am yr Afiaid, y rhai oedd yn trigo yn Haserim, hyd Azzah, y Caphtoriaid, y rhai a ddaethant allan o Caphtor, a’u difethasant hwy, ac a drigasant yn eu lle hwynt.)
24¶ Cyfodwch, cychwynwch, ac ewch dros afon Arnon: wele, rhoddais yn dy law di Sehon brenhin Hesbon, yr Amoriad, a’i wlad ef; dechreu ei meddiannu hi, a rhyfela yn ei erbyn ef.
25Y dydd hwn y dechreuaf roddi dy arswyd a’th ofn di ar y bobloedd dan yr holl nefoedd: y rhai a glywant dy enw di, a ddychrynant, ac a lesgânt rhagot ti.
26¶ A mi a anfonais genhadau o anialwch Cedemoth, at Sehon brenhin Hesbon, â geiriau heddwch, gan ddywedyd,
27Gâd i mi fyned trwy dy wlad di: ar hyd y brif-ffordd y cerddaf; ni chiliaf i’r tu dehau nac i’r tu aswy.
28Gwerth fwyd am arian i mi, fel y bwyttâwyf; a dyro ddwfr am arian i mi, fel yr yfwyf: ar fy nhraed yn unig y tramwyaf;
29(Fel y gwnaeth meibion Esau i mi, y rhai sydd yn trigo yn Seir, a’r Moabiaid, y rhai sydd yn trigo yn Ar;) hyd onid elwyf dros yr Iorddonen, i’r wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.
30Ond ni fynnai Sehon brenhin Hesbon ein gollwng heb ei law: oblegid yr Arglwydd dy Dduw a galedasai ei yspryd ef, ac a gadarnhasai ei galon ef, er mwyn ei roddi ef yn dy law di; megis heddyw y gwelir.
31A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Wele, dechreuais roddi Sehon a’i wlad o’th flaen di: dechreu feddiannu, fel yr etifeddech ei wlad ef.
32Yna Sehon a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel yn Jahas.
33Ond yr Arglwydd ein Duw a’i rhoddes ef o’n blaen; ac ni a’i tarawsom ef, a’i feibion, a’i holl bobl:
34Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, ac a ddifrodasom bob dinas, yn wŷr, yn wragedd, yn blant; ac ni adawsom un y’ngweddill.
35Ond ysglyfaethasom yr anifeiliaid i ni, ac yspail y dinasoedd y rhai a ennillasom.
36O Aroer, yr hon sydd ar fin afon Arnon, ac o’r ddinas sydd ar yr afon, a hyd at Gilead, ni bu ddinas a’r a ddïangodd rhagom: yr Arglwydd ein Duw a roddes y cwbl o’n blaen ni.
37Yn unig ni ddaethost i dir meibion Ammon, sef holl làn afon Jabboc, nac i ddinasoedd y mynydd, nac i’r holl leoedd a waharddasai yr Arglwydd ein Duw i ni.