Llyfr Deuteronomium 20
1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
2A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,
3A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesâu heddyw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhâed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.
4Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyd â chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.
5¶ A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa wr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cyssegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i wr arall ei gyssegru ef.
6A pha wr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i wr arall ei mwynhâu hi.
7A pha wr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymmerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i wr arall ei chymmeryd hi.
8Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa wr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.
9A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod o honynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.
10¶ Pan nesâech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch.
11A bydded, os heddwch a ettyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu.
12Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.
13Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, taro ei holl wrrywiaid â min y cleddyf.
14Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl yspail, a yspeili i ti: a thi a fwynhêi yspail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.
16Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:
17Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchymynodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
18Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ol eu holl ffieidd-dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu o honoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.
19¶ Pan warchâech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys o honynt y bwyttêi; na thorr dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’ w gosod yn y gwarch-glawdd.
20Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warch-glawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.