The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 18

1Rhoddi y prophwyd rhyfygus i farwolaeth. Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd âg Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwyttânt hwy.

2Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ym mhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.

3¶ A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog, a’r ddwy ên, a’r botten.

4Blaen-ffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaen-ffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.

5Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.

6¶ A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd;

7Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno ger bron yr Arglwydd.

8Rhan am ran a fwyttânt, heb law gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.

9¶ Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ol ffieidd-dra y cenhedloedd hynny.

10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,

11Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofyno â’r meirw:

12O herwydd ffieidd-dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd-dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di.

13Bydd berffaith gyd â’r Arglwydd dy Dduw.

14Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond am danat ti, nid felly y caniattaodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15¶ Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Brophwyd megis finnau; arno ef y gwrandêwch;

16Yn ol yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymmanfa, gan ddywedyd, Na chlywwyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw.

17A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant.

18Codaf Brophwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchymynwyf iddo.

19A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’ i gofynaf ganddo.

20Y prophwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchymynais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dïeithr; rhodder y prophwyd hwnnw i farwolaeth.

21Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd?

22Yr hyn a lefaro y prophwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y prophwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.

← Llyfr Deuteronomium 17Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 19 →

Study Llyfr Deuteronomium 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334