Llyfr Deuteronomium 25
1Rhaid yw dilëu coffadwriaeth Amalec. Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.
2Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ol ei ddryganiaeth, dan rifedi.
3Deugain gwïalennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef â llawer gwïalennod uwch law hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4¶ Na chau safn ŷch tra fyddo yn dyrnu.
5¶ Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un o honynt, ac heb blentyn iddo; na phrïoded gwraig y marw wr dïeithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr atti, a chymmered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.
6A bydded i’r cyntaf-anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddilëer ei enw ef allan o Israel.
7Ac oni bydd boddlawn y gwr i gymmeryd ei gyfathrach-wraig; yna aed ei gyfathrach-wraig i fynu i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrach-wr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrach-wr â mi.
8Yna galwed henuriaid ei ddinas am dano ef, ac ymddiddanant âg ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi foddlawn i’w chymmeryd hi;
9Yna nesâed ei gyfathrach-wraig atto ef y’ngŵydd yr henuriaid, a dattoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef, ac attebed, a dyweded, Felly y gwneir i’r gwr nid adeilado dŷ ei frawd.
10A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y dattodwyd ei esgid.
11¶ Os ymryson dynion ynghyd, sef gwr â’i frawd, a nesâu gwraig y naill i achub ei gwr o law ei darawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef;
12Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13¶ Na fydded gennyt yn dy gôd amryw bwys, mawr a bychan.
14Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.
15Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt ephah uniawn a chyfiawn: fel yr estyner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
16Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a’r a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnel anghyfiawnder.
17¶ Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aipht:
18Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf o honot, yr holl weiniaid o’th ol di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw.
19Am hynny bydded, pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu o honot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.