The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 15

1Rhaid yw cyssegru pob gwrryw cyntaf-anedig o’r anifeiliaid i’r Arglwydd. Ym mhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod.

2A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynwr i’w gymmydog yn rhydd ei echwyn a echwynodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymmydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd.

3Ti a elli fynnu drachefn gan y dïeithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyd â’th frawd:

4Megis na byddo o honot ti gardottyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu;

5Yn unig os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchymynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddyw.

6Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthycciech i genhedloedd lawer, ac na fenthycciech di ganddynt; ti hefyd a arglwydd iaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.

7¶ Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddi wrth dy frawd tlawd:

8Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthyccio benthyccia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisieu.

9Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw y seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain o hono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti.

10Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.

11Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.

12¶ Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrëes, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.

13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:

14Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwrŷf: o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.

15A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aipht, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddyw.

16Ond os dywed wrthyt, Nid âf allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; o herwydd bod yn dda arno ef gyd â thi:

17Yna cymmer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddor; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn.

18Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.

19¶ Pob cyntaf-anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wrryw, a gyssegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf-anedig dy ychain, ac na chneifia gyntaf-anedig dy ddefaid.

20Ger bron yr Arglwydd dy Dduw y bwyttêi ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu.

21Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw.

22O fewn dy byrth y bwyttêi ef: yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwytty, megis yr iwrch, ac megis y carw.

23Etto na fwytta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.

← Llyfr Deuteronomium 14Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 16 →

Study Llyfr Deuteronomium 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334