The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 24

1ac elusen. Pan gymmero gwr wraig, a’i phrïodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifened iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ.

2Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gwr arall:

3Os ei gwr diweddaf a’i casâ hi, ac a ysgrifena lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gwr diweddaf a’i cymmerodd hi yn wraig iddo:

4Ni ddichon ei phrïod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymmeryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd-dra yw hyn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.

5¶ Pan gymmero gwr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhâu ei wraig a gymmerodd.

6¶ Na chymmered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymmeryd bywyd dyn yng ngwystl.

7¶ Pan gaffer gwr yn lladratta un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.

8¶ Gwylia ym mhla y gwahan-glwyf, ar ddyfal-gadw, a gwneuthur yn ol yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchymynais wrthynt hwy.

9Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aipht.

10¶ Pan fenthycciech i’th gymmydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymmeryd ei wystl ef.

11Allan y sefi; a dyged y gwr y benthycciaist iddo y gwystl allan attat ti.

12Ac os gwr tlawd fydd efe, na chwsg a’i wystl gyd â thi.

13Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.

14¶ Na orthrymma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddïeithrddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 25 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot.

15

16Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.

17¶ Na ŵyra farn y dïeithr na’r amddifad; ac na chymmer ar wystloraeth wisg y weddw.

18Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aipht, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

19¶ Pan fedech dy gynhauaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymmeryd: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylaw.

20Pan ysgydwech dy olew-wydden, na loffa ar dy ol: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

21Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ol: bydded i’r dïeithr, i’r amddifad, ac i’r weddw.

22Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aipht: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.

← Llyfr Deuteronomium 23Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 25 →

Study Llyfr Deuteronomium 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334