The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 17

1a dyledswydd brenhin. Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ŷch neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.

2¶ Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, wr neu wraig a wnaeth ddrygioni y’ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfammod ef,

3Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dïeithr, ac a ymgrymmodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchymynais;

4Pan ddangoser i ti, a chlywed o honot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd-dra hyn yn Israel;

5Yna dwg allan y gwr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gwr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw.

6Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst.

7Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.

8¶ Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw:

9A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.

10A gwna yn ol rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ol yr hyn oll a ddysgant i ti.

11Yn ol rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ol y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu dehau nac i’r tu aswy.

12A’r gwr a wnel mewn rhyfyg, heb wrandaw ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gwr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel.

13A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant, ac ni ryfygant mwy.

14¶ Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenhin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch:

15Gan osod arnat yn frenhin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenhin; ni elli roddi arnat wr dïeithr yr hwn nid yw frawd i ti.

16Ond nac amlhâed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aipht i amlhâu meirch; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.

17Ac nac amlhâed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhâed arian ac aur lawer iddo.

18A phan eisteddo ar deyrn-gadair ei frenhiniaeth, ysgrifened iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd ger bron yr offeiriaid y Lefiaid.

19A bydded gyd âg ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt:

20Fel na ddyrchafo ei galon uwch law ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu dehau nac i’r tu aswy: fel yr estyno ddyddiau yn ei frenhiniaeth, efe a’i feibion yng nghanol Israel.

← Llyfr Deuteronomium 16Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 18 →

Study Llyfr Deuteronomium 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334