Llyfr Deuteronomium 3
1a rhoddi iddo gennad i’w gweled hi. Yna y troisom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenhin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei.
2A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenhin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
3Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenhin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i tarawsom ef, hyd na adawyd iddo un y’ngweddill:
4Ac a ennillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; tri ugain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan.
5Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heb law dinasoedd heb furiau lawer iawn.
6A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenhin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant.
7Ond yr holl anifeiliaid ac yspail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain.
8A ni a gymmerasom yr amser hwnnw o law dau frenhin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon;
9(Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;)
10Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selchah, ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan.
11Oblegid Og brenhin Basan yn unig a adawsid o weddill y cawri: wele, ei wely ef oedd wely haiarn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hŷd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gwr.
12A’r wlad hon a berchennogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid.
13A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasseh; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cawri.
14Jair mab Manasseh a gymmerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth-Jair, hyd y dydd hwn.
15Ac i Machir y rhoddais i Gilead.
16Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon:
17Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth-Pisgah, tu a’r dwyrain.
18¶ Gorchymynais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr o honoch.
19Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi.
20Hyd pan wnelo yr Arglwydd i’ch brodyr orphwyso fel chwithau, a meddiannu o honynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.
21¶ Gorchymynais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenhin hyn: felly y gwna yr Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd attynt.
22Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi.
23Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd,
24O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ol dy weithredoedd a’th nerthoedd di?
25Gâd i mi fyned drosodd, attolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.
26Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti, na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn.
27Dos i fynu i ben Pisgah, a dyrchafa dy lygaid tu a’r gorllewin, a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, ac edrych arni â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon.
28Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnhâ ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di.
29Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth-peor.