Llyfr Deuteronomium 22
1a llosgach. Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd.
2Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos attat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyd â thi, hyd pan ymofyno dy frawd am dano; yna dyro ef yn ei ol iddo ef.
3Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4¶ Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ŷch yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gyd âg ef.
5¶ Na fydded dilledyn gwr am wraig, ac na wisged gwr ddillad gwraig: o herwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnel hyn.
6¶ Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu âg wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymmer y fam gyd â’r cywion.
7Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymmeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynech dy ddyddiau.
8¶ Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9¶ Na haua dy winllan âg amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a hauech, chnwd y winllan.
10¶ Nac ardd âg ŷch ac âg asyn ynghyd.
11¶ Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlan a llin ynghyd.
12¶ Plethau a weithi i ti ar bedwar cwrr dy wisg yr ymwisgech â hi.
13¶ O chymmer gwr wraig, ac wedi myned atti, ei chasâu;
14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymmerais; a phan euthum atti, ni chefais ynddi forwyndod:
15Yna cymmered tad y llangces a’i mam, a, dygant arwyddion morwyndod y llangces at henuriaid y ddinas i’r porth.
16A dyweded tad y llangces wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gwr hwn yn wraig, a’i chasâu y mae efe.
17Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn y’ngŵydd henuriaid y ddinas.
18A henuriaid y ddinas honno a gymmerant y gwr, ac a’i cospant ef.
19A hwy a’i dirwyant ef mewn càn sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llangces; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.
20Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llangces:
21Yna y dygant y llangces at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan butteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.
22¶ O cheffir gwr yn gorwedd gyd â gwraig brïodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gwr a orweddodd gyd â’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.
23¶ O bydd llangces o forwyn wedi ei dyweddïo i wr, a chael o wr hi mewn dinas, a gorwedd gyd â hi;
24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llangces, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gwr, o herwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymmydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.
25¶ Ond os mewn maes y cafodd y gwr y llangces wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gwr, a gorwedd gyd â hi; yna bydded farw y gwr a orweddodd gyd â hi yn unig.
26Ond i’r llangces ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llangces bechod yn haeddu marwolaeth: o herwydd megis y cyfyd gwr yn erbyn ei gymmydog, a’i ddïeneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:
27Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llangces oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.
28¶ O chaiff gwr langces o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyd â hi, a’u dala hwynt:
29Yna y rhydd y gwr a orweddodd gyd â hi, i dad y llangces, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.
30¶ Na chymmered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.