The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 29

1I Dduw y perthyn pethau dirgel. Dyma eiriau y cyfammod a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammododd efe â hwynt yn Horeb.

2¶ A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aipht, i Pharaoh, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir;

3Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny:

4Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn.

5Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad am danoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed.

6Bara ni fwyttasoch, a gwin neu ddïod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.

7A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenhin Hesbon, ac Og brenhin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a'u lladdasom hwynt:

8Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoisom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasseh.

9Cedwch gan hynny eiriau y cyfammod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.

10¶ Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw; pennaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel,

11Eich plant, eich gwragedd, a’th dïeithr- ddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymmynydd dy goed hyd wchynnydd dy ddwfr:

12I fyned o honot dan gyfammod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddyw:

13I’th sicrhâu heddyw yn bobl iddo ei hun, ac i fod o hono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob.

14Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfammod hwn, a’r cynghrair yma;

15Ond â’r hwn sydd yma gyd â ni yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd ein Duw, ac â’r hwn nid yw yma gyd â ni heddyw:

16(Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aipht, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt;

17A chwi a welsoch eu ffieidd-dra hwynt a’u heilun-dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:)

18Rhag bod yn eich mysg wr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddyw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod:

19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:

20Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo; canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gwr hwnnw, a’r holl felldithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd.

21A’r Arglwydd a’i neilldua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ol holl felldithion y cyfammod a ysgrifenwyd yn llyfr y gyfraith hon.

22A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ol, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ol chwi, a’r dïeithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont bläau y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi;

23A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaen-dardda, ac na ddaw i fynu un llysieuyn ynddo, fel dinystr Sodom a Gomorrah, Admah a Seboim, y rhai a ddinystriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint:

24Ië, yr holl genhedloedd a ddywedant, Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddigter yw y digofaint mawr hwn?

25Yna y dywedir, Am wrthod o honynt gyfammod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a ammododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aipht.

26Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dïeithr, ac ymgrymmasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt.

27Am hynny yr ennynodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melldith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn.

28A’r Arglwydd a’u dinystriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn digter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddyw.

29Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth, fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.

← Llyfr Deuteronomium 28Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 30 →

Study Llyfr Deuteronomium 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334