Llyfr Numeri 2
1Trefyn y llwythau yn eu pebyll. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
2Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei lumman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.
3¶ A’r rhai a wersyllant o du y dwyrain tu a chodiad haul, fydd gwŷr llumman gwersyll Judah, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Judah fydd Nahson mab Aminadab.
4A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thri ugain: a chwe chant.
5A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf atto: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar.
6A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
7Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon.
8A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.
9Holl rifedigion gwersyll Judah fyddant, yn ol eu lluoedd, yn gàn mil a phedwar ugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.
10Lluman gwersyll Reuben fydd tu a’r dehau, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur.
11A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant.
12A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai.
13A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un tri ugain mil a thri chant.
14Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Elïasaph mab Reuel.
15A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bùm mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.
16Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gàn mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ol eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.
17¶ A phabell y cyfarfod a gychwyn y’nghanol y gwersylloedd, gyd â gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symmudant, pob un yn ei le, wrth eu llummanau.
18¶ Lluman gwersyll Ephraim fydd tu a’r gorllewin, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Ephraim fydd Elisama mab Ammihud.
19A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phùm cant.
20Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur.
21A’u lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
22Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni.
23A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant.
24Holl rifedigion gwersyll Ephraim fyddant, yn ol eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.
25¶ Llumman gwersyll Dan fydd tu a’r gogledd, yn ol eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahïezer mab Ammisàdai.
26A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thri ugain a saith gant.
27A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagïel mab Ocran.
28A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phùm cant.
29Yna llwyth Naphtali: a chapten meibion Naphtali fydd Ahira mab Enan.
30A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
31Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gàn mil ac onid tair mil tri ugain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.
32¶ Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ol eu lluoedd, oedd chwe chàn mil a thair mil a phùm cant a deg a deugain.
33Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ym mysg meibion Israel; megis y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
34A meibion Israel a wnaethant yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llummanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ol tŷ eu tadau.