The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 34

1Enwau y rhai a rannant y tir. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma y tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a’i therfynau,)

3A’ch tu dehau fydd o anialwch Sin, ger llaw Edom: a therfyn y dehau fydd i chwi o gwrr y môr heli tu a’r dwyrain.

4A’ch terfyn a amgylchyna o’r dehau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a’i fynediad allan fydd o’r dehau i Cades-Barnea, ac a â allan i Hasar-Adar, a throsodd i Asmon:

5A’r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aipht; a’i fynediad ef allan a fydd tu a’r gorllewin.

6A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.

7A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o’r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.

8O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.

9¶ A’r terfyn a â allan tu a Ziphron; a’i ddiwedd ef fydd yn Hasar-Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.

10A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar-Enan i Sepham.

11Ac aed y terfyn i waered o Sepham i Riblah, ar du dwyrain Ain; a disgyned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinnereth tu a’r dwyrain.

12A’r terfyn a â i waered tu a’r Iorddonen; a’i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma y tir fydd i chwi a’i derfynau oddi amgylch.

13A gorchymynodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma y tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchymynodd yr Arglwydd ei roddi i’r naw llwyth, ac i’r hanner llwyth.

14Canys cymmerasai llwyth meibion Reuben yn ol tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ol tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasseh, cymmerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.

15Dau lwyth a hanner llwyth a gymmerasant eu hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen, yn agos i Jericho, tu a’r dwyrain a chodiad haul.

16¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

17Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleazar yr ofteiriad, a Josua mab Nun.

18Ac un pennaeth o bob llwyth a gymmerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.

19Ac fel dyma enwau y gwŷr: o lwyth Judah, Caleb mab Jephunneh.

20Ac o lwyth meibion Simeon, Semuel mab Ammihud.

21O lwyth Benjamin, Elidad mab Cislon.

22A Bucci mab Jogli, yn bennaeth o lwyth meibion Dan.

23O feibion Joseph, Haniel mab Ephod, yn bennaeth dros lwyth meibion Manasseh.

24Cemuel hefyd mab Siphtan, yn bennaeth dros lwyth meibion Ephraim.

25Ac Elisaphan mab Pharnach, yn bennaeth dros lwyth meibion Zabulon.

26Paltiel hefyd mab Assan, yn bennaeth dros lwyth meibion Issachar.

27Ac Ahihud mab Salomi, yn bennaeth dros lwyth meibion Aser.

28Ac yn bennaeth dros lwyth meibion Naphtali, Pedahel mab Ammihud.

29Dyma y rhai a orchymynodd yr Arglwydd iddynt rannu etifeddiaethau i feibion Israel, yn nhir Canaan.

← Llyfr Numeri 33Read In The App, Free →Llyfr Numeri 35 →

Study Llyfr Numeri 34

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536