The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 35

1ac nas gellir ei ddiwygio. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho, gan ddywedyd,

2Gorchymyn i feibion Israel, roddi o honynt i’r Lefiaid, o etifeddiaeth eu meddiant, ddinasoedd i drigo ynddynt: rhoddwch hefyd i’r Lefiaid faes pentrefol wrth y dinasoedd o’u hamgylch.

3A’r dinasoedd fyddant iddynt i drigo ynddynt, a’u pentrefol feusydd fyddant i’w hanifeiliaid, ac i’w cyfoeth, ac i’w holl fwystfilod.

4A meusydd pentrefol y dinasoedd y rhai a roddwch i’r Lefiaid, a gyrhaeddant o fur y ddinas tu ag allan, fil o gufyddau o amgylch.

5A mesurwch o’r tu allan i’r ddinas, o du y dwyrain ddwy fil o gufyddau, a thu a’r dehau ddwy fil o gufyddau, a thu a’r gorllewin ddwy fil o gufyddau, a thu a’r gogledd ddwy fil o gufyddau; a’r ddinas fydd yn y canol: hyn fydd iddynt yn feusydd pentrefol y dinasoedd.

6Ac o’r dinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, bydded chwech yn ddinasoedd noddfa, y rhai a roddwch, fel y gallo y llawruddiog ffoi yno: a rhoddwch ddwy ddinas a deugain attynt yn ychwaneg.

7Yr holl ddinasoedd a roddwch i’r Lefiaid, fyddant wyth ddinas a deugain, hwynt a’u pentrefol feusydd.

8A’r dinasoedd y rhai a roddwch, fydd o feddiant meibion Israel: oddi ar yr aml eu dinasoedd, y rhoddwch yn aml; ac oddi ar y prin, y rhoddwch yn brin: pob un yn ol ei etifeddiaeth a etifeddant, a rydd i’r Lefiaid o’i ddinasoedd.

9¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

10Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan eloch dros yr Iorddonen i dir Canaan;

11Yna gosodwch i chwi ddinasoedd; dinasoedd noddfa fyddant i chwi: ac yno y ffy y llawruddiog a laddo ddyn mewn amryfusedd.

12A’r dinasoedd fyddant i chwi yn noddfa rhag y dïalydd; fel na ladder y llawruddiog, hyd oni safo ger bron y gynnulleidfa mewn barn.

13Ac o’r dinasoedd y rhai a roddwch, chwech fydd i chwi yn ddinasoedd noddfa.

14Tair dinas a roddwch o’r tu yma i’r Iorddonen, a thair dinas a roddwch yn nhir Canaan: dinasoedd noddfa fyddant hwy.

15I feibion Israel, ac i’r dïeithr, ac i’r ymdeithydd a fyddo yn eu mysg, y bydd y chwe dinas hyn yn noddfa; fel y gallo pob un a laddo ddyn mewn amryfusedd, ffoi yno.

16Ac os âg offeryn haiarn y tarawodd ef, fel y bu farw, llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

17Ac os â charreg law, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, y tarawodd ef, a’i farw; llawruddiog yw efe; lladder y llawruddiog yn farw.

18Neu os efe a’i tarawodd ef â llaw-ffon, yr hon y byddai efe farw o’i phlegid, a’i farw; llawruddiog yw efe: lladder y llawruddiog yn farw.

19Dïalydd y gwaed a ladd y llawruddiog: pan gyfarfyddo âg ef, efe a’i lladd ef.

20Ac os mewn cas y gwthia efe ef, neu y teifl atto mewn bwriad, fel y byddo efe farw;

21Neu ei daro ef â’i law, mewn galanasdra, fel y byddo farw: lladder yn farw yr hwn a’ i tarawodd; llofrudd yw hwnnw: dïalydd y gwaed a ladd y llofrudd, pan gyfarfyddo âg ef.

22Ond os yn ddisymmwth, heb alanasdra, y gwthia efe ef, neu y teifl atto un offeryn yn ddifwriad;

23Neu ei daro ef â charreg, y byddai efe farw o’i phlegid, heb ei weled ef; a pheri iddi syrthio arno, fel y byddo farw, ac efe heb fod yn elyn, ac heb geisio niwed iddo ef:

24Yna barned y gynnulleidfa rhwng y tarawydd a dïalydd y gwaed, yn ol y barnedigaethau hyn.

25Ac achubed y gynnulleidfa y llofrudd O law dïalydd y gwaed, a thröed y gynnulleidfa ef i ddinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi: a thriged yntau ynddi hyd farwolaeth yr arch-offeiriad, yr hwn a enneiniwyd â’r olew cyssegredig.

26Ac os y llofrudd gan fyned a â allan o derfyn dinas ei noddfa, yr hon y ffodd efe iddi;

27A’i gael o ddïalydd y gwaed all an o derfyn dinas ei noddfa, a lladd o ddïalydd y gwaed y llofrudd; na rodder hawl gwaed yn ei erbyn:

28Canys o fewn dinas ei noddfa y dyly drigo, hyd farwolaeth yr arch-offeiriad: ac wedi marwolaeth yr arch-offeiriad, dychweled y llofrudd i dir ei etifeddiaeth.

29A hyn fydd i chwi yn ddeddf farnedig trwy eich cenhedlaethau, yn eich holl drigfannau.

30Pwy bynnag a laddo ddyn, wrth a ddywedo tystion y lleddir y llofrudd: ac un tyst ni chaiff dystiolaethu yn erbyn dyn, i beri iddo farw.

31Hefyd, na chymmerwch iawn am einioes y llofrudd, yr hwn sydd euog i farw; ond lladder ef yn farw.

32Ac na chymmerwch iawn gan yr hwn a ffodd i ddinas ei noddfa, er cael dychwelyd i drigo yn y tir, hyd farwolaeth yr offeiriad;

33Fel na halogoch y tir yr ydych ynddo; canys y gwaed hwn a haloga y tir: a’r tir ni lanhêir oddi wrth y gwaed a dywallter arno, ond â gwaed yr hwn a’i tywalltodd.

34Am hynny nac aflanhâ y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio y’nghanol meibion Israel.

← Llyfr Numeri 34Read In The App, Free →Llyfr Numeri 36 →

Study Llyfr Numeri 35

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536