The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 6

1Y dull y bendithir y bobl. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneillduo gwr neu wraig i addaw adduned Nazaread, i ymneillduo i’r Arglwydd:

3Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion.

4Holl ddyddiau ei Nazareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen.

5Holl ddyddiau adduned ei Nazareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni y dyddiau yr ymneillduodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6Holl ddyddiau ei ymneillduaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nazareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8Holl ddyddiau ei Nazareaeth, sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd.

9Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymmwth, a halogi pen ei Nazareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colommen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11Ac offrymmed yr offeiriad un yn bech-aberth, ac un yn boeth-offrwm, a gwnaed gymmod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12A neilldued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nazareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd: ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nazareaeth ef.

13¶ A dyma gyfraith y Nazaread: pan gyflawner dyddiau ei Nazareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hespwrn blwydd, perffeith-gwbl, yn boeth-offrwm; ac un hespin flwydd, berffeith-gwbl, yn bech-aberth; ac un hwrdd perffeith-gwbl, yn aberth hedd;

15Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu henneinio âg olew, a’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm hwy.

16A dyged yr offeiriad hwynt ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ei bech-aberth a’i boeth-offrwm ef.

17Offrymmed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymmed yr offeiriad ei fwyd-offrwm a’i ddïod-offrwm ef.

18Ac eillied y Nazaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nazareaeth; a chymmered flew pen ei Nazareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.

19Cymmered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylaw y Nazaread, wedi eillio ohono ei Nazareaeth;

20A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan ger bron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heb law parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nazaread yfed gwin.

21Dyma gyfraith y Nazaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nazareaeth, heb law yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heb law cyfraith ei Nazareaeth.

22¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

23Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,

24Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:

25A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhâed wrthyt:

26Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.

27Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.

← Llyfr Numeri 5Read In The App, Free →Llyfr Numeri 7 →

Study Llyfr Numeri 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536