The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 29

1ac ar wyth niwrnod gwyl y pebyll. Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymmanfa sanctaidd; dim caeth-waith nis gwnewch: dydd i ganu udgyrn fydd efe i chwi.

2Ac offrymmwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuangc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

3A’u bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd;

4Ac un ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:

5Ac un bwch geifr yn bech-aberth, i wneuthur cymmod drosoch:

6Heb law poeth-offrwm y mis, a’i fwyd-offrwm, a’r poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7¶ Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8Ond offrymmwch boeth-offrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuangc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffeith-gwbl gennych.

9A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, tair degfed ran gyd â bustach, a dwy ddegfed ran gyd â hwrdd;

10Bob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r saith oen:

11Un bwch geifr yn bech-aberth; heb law pech-aberth y cymmod, a’r poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’u dïod-offrymmau.

12¶ Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymmanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch; eithr cedwch wyl i’r Arglwydd saith niwrnod.

13Ac offrymmwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffeith-gwbl.

14A’u bwyd-offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; tair degfed ran gyd â phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyd â phob hwrdd, o’r ddau hwrdd;

15A phob yn ddegfed ran gyd â phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg:

16Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

17¶ Ac ar yr ail ddydd yr offrymmwch ddeuddeng mustach ieuaingc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

18A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

19Ac un bwch geifr, yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm a’u dïod-offrymmau.

20¶ Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

21A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a ehyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

22Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

23¶ Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl:

24Eu bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

25Ac un bwch geifr yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

26¶ Ac ar y pummed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

27A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod;

28Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

29¶ Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

30A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

31Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

32¶ Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

33A’u bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustych, gyd â’r hyrddod, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth eu defod:

34Ac un bwch yn bech-aberth; heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

35¶ Ar yr wythfed dydd, uchel wyl fydd i chwi: dim caeth-waith nis gwnewch ynddo.

36Ond offrymmwch offrwm poeth-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffeith-gwbl.

37Eu bwyd-offrwm, a’u dïod-offrwm, gyd â’r bustach, a chyd â’r hwrdd, a chyd â’r ŵyn, fydd yn ol eu rhifedi, wrth y ddefod:

38Ac un bwch yn bech-aberth: heb law y poeth-offrwm gwastadol, ei fwyd-offrwm, a’i ddïod-offrwm.

39Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heb law eich addunedau, a’ch offrymmau gwirfodd, gyd â’ch offrymmau poeth, a’ch offrymmau bwyd, a’ch offrymmau dïod, a’ch offrymmau hedd.

40A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.

← Llyfr Numeri 28Read In The App, Free →Llyfr Numeri 30 →

Study Llyfr Numeri 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536