Llyfr Numeri 27
1Appwyntio Josua i gael ei le ef. Yna y daeth merched Salphaad, mab Hepher, mab Gilead, mab Machir, mab Manasseh, o dylwyth Manasseh mab Joseph; (a dyma enwau ei ferched ef; Malah, Noah, Hoglah, Milcah, a Tirsah;)
2Ac a safasant ger bron Moses, a cher bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron y pennaethiaid, a’r holl gynnulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,
3Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ym mysg y gynnulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd y’nghynnulleidfa Corah, ond yn el bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.
4Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ym mysg brodyr ein tad.
5A dug Moses eu hawl hwynt ger bron yr Arglwydd.
6¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
7Y mae merched Salphaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ym mysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.
8Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch.
9Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr.
10Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.
11Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.
12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i’r mynydd Abarim hwn, a gwel y tir a roddais i feibion Israel.
13Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.
14Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynnulleidfa, y gwrth ryfelasoch yn erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.
15¶ A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,
16Gosoded yr Arglwydd, Duw ysprydion pob cnawd, un ar y gynnulleidfa,
17Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynnulleidfa yr Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.
18¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer attat Josua mab Nun, y gwr y mae yr yspryd ynddo, a gosod dy law arno;
19A dod ei i sefyll ger bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron yr holl gynnulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.
20A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynnulleidfa meibion Israel arno.
21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor drosto ef, yn ol barn Urim, ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd âg ef, a’r holl gynnulleidfa.
22A gwnaeth Moses megis y gorchymynodd yr Arglwydd iddo: ac a gymmerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll ger bron Eleazar yr offeiriad, a cher bron yr holl gynnulleidfa.
23Ac efe a osododd ei ddwylaw arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.