The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 30

1

2Os adduneda gwr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ol yr hyn oll a ddêl allan o’i enau.

3Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuengctid;

4A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.

5Ond os ei thad a bâr iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddeu yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.

6Ac os hi oedd yn eiddo gwr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;

7A chlywed o’i gwr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.

8Ond os ei gwr, ar y dydd y clywo, a bâr iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r Arglwydd a faddeu iddi.

9Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.

10Ond os yn nhŷ ei gwr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;

11A chlywed o’i gwr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.

12Ond os ei gwr gan ddiddymmu a’u diddymma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gwr a’u diddymmodd hwynt; a’r Arglwydd a faddeu iddi.

13Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio yr enaid, ei gwr a’i cadarnhâ, a’i gwr a’i diddymma.

14Ac os ei gwr gan dewi a daw wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.

15Ac os efe gan ddiddymmu a’u diddymma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.

16Dyma y deddfau a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gwr a’i wraig, a rhwng tad a’i ferch, yn ei hieuengctid yn nhŷ ei thad.

← Llyfr Numeri 29Read In The App, Free →Llyfr Numeri 31 →

Study Llyfr Numeri 30

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536