Llyfr Numeri 5
1Eiddigedd, pa un ai heb achos, ai trwy achos y mae. a’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw.
3Yn wrryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith.
4A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
6Llefara wrth feibion Israel, Os gwr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o’r enaid hwnnw yn euog:
7Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ol yr hyn a fyddo efe euog o hono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran atto, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam âg ef.
8Ac oni bydd i’r gwr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heb law yr hwrdd cymmod yr hwn y gwna efe gymmod âg ef trosto.
9A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymmant at yr offeiriad, fydd eiddo ef.
10A sancteiddio gwr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.
11¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gwr pan ŵyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef;
13A bod i wr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gwr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb dyst yn ei herbyn, heb ei dal ar ei gweithred;
14A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod yspryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu o hono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi:
15Yna dyged y gwr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran ephah o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm côf yn coffâu anwiredd.
16A nesâed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll ger bron yr Arglwydd.
17A chymmered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymmered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr.
18A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll ger bron yr Arglwydd, a dïosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylaw offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri y felldith.
19A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gwr gyd â thi, ac oni ŵyraist i aflendid gyd âg arall yn lle dy wr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri y felldith.
20Ond os gŵyraist ti oddi wrth dy wr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heb law dy wr dy hun:
21(Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melldith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig,) Rhodded yr Arglwydd dydi yn felldith ac yn llw ym mysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig;
22Ac aed y dwfr melldigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen.
23Ac ysgrifened yr offeiriad y melldithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw.
24A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri y felldith: ac aed y dwfr sydd yn peri y felldith i’w mewn hi, yn chwerw.
25A chymmered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm ger bron yr Arglwydd, ac offrymmed ef ar yr allor.
26A chymmered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr.
27Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gwr, yr â y dwfr sydd yn peri y felldith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwyd: a’r wraig a fydd yn felldith ym mysg ei phobl.
28Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddïhangol, ac a blanta.
29Dyma gyfraith eiddigedd, pan ŵyro gwraig at arall yn lle ei gwr, ac ymhalogi:
30Neu os daw ar wr wŷn eiddigedd, a dal o hono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ol y gyfraith hon.
31A’r gwr fydd dïeuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.