The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 7

1Duw yn llefaru wrth Moses o’r drugareddfa. Ac ar y dydd y gorphenodd Moses godi y tabernacl, a’i enneinio, a’i sancteiddio ef, a’i holl ddodrefn, yr allor hefyd a’i holl ddodrefn, a’u henneinio a’u sancteiddio hwynt;

2Yr offrymmodd tywysogion Israel, pennaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)

3A’u hoffrwm a ddygasant hwy ger bron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychain; mèn dros bob dau dywysog, ac ŷch dros bob un: a cher bron y tabernacl y dygasant hwynt.

4A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

5Cymmer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i’r Lefiaid, i bob un yn ol ei wasanaeth.

6A chymmerodd Moses y menni, a’r ychain, ac a’u rhoddodd hwynt i’r Lefiaid.

7Dwy fèn a phedwar ŷch a roddes efe i feibion Gerson, yn ol eu gwasanaeth hwynt;

8A phedair mèn ac wyth ychain a roddodd efe i feibion Merari, yn ol eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

9Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cyssegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.

10¶ A’r tywysogion a offrymmasant tu ag at gyssegru yr allor, ar y dydd yr enneiniwyd hi; a cher bron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.

11A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymmant eu hoffrymmau, tu ag at gyssegru yr allor.

12¶ Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymmu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Judah.

13A’i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol sicl y cyssegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

14Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

15Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

16Un bwch geifr yn bech-aberth:

17Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hesp wrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.

18¶ Ac ar yr ail ddydd yr offrymmodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar.

19Efe a offrymmodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

20Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

21Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

22Un bwch geifr yn bech-aberth:

23Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.

24¶ Ar y trydydd dydd yr offrymmodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Zabulon.

25Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

26Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

27Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwrn poeth:

28Un bwch geifr yn bech-aberth:

29Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elïab mab Helon.

30¶ Ar y pedwerydd dydd yr offrymmodd Elisur mab Sedëur, tywysog meibion Reuben.

31Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

32Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

33Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

34Un bwch geifr yn bech-aberth:

35Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisur mab Sedëur.

36¶ Ar y pummed dydd yr offrymmodd Selumiel mab Surisàdai, tywysog meibion Simeon.

37Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

38Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

39Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

40Un bwch geifr yn bech-aberth:

41Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Selumiel mab Surisàdai.

42¶ Ar y chweched dydd yr offrymmodd Elïasaph meb Deuel, tywysog meibion Gad.

43Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

44Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

45Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

46Un bwch geifr yn bech-aberth:

47Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elïasaph mab Deuel.

48¶ Ar y seithfed dydd yr offrymmodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Ephraim.

49Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

50Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

51Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

52Un bwch geifr yn bech-aberth:

53Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.

54¶ Ar yr wythfed dydd yr offrymmodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasseh.

55Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg aid a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

56Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

57Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

58Un bwch geifr yn bech-aberth:

59Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.

60¶ Ar y nawfed dydd yr offrymmodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin.

61Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

62Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

63Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

64Un bwch geifr yn bech-aberth:

65Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.

66¶ Ar y degfed dydd yr offrymmodd Ahïezer mab Ammisàdai, tywysog meibion Dan.

67Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

68Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

69Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

70Un bwch geifr yn bech-aberth:

71Ac yn aberth hedd, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Ahïezer mab Ammisàdai.

72¶ Ar yr unfed dydd ar ddeg yr offrymmodd Pagïel mab Ocran, tywysog meibion Aser.

73Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn o beilliaid ill dwyoedd wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

74Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

75Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

76Un bwch geifr yn bech-aberth:

77Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Pagïel mab Ocran.

78¶ Ar y deuddegfed dydd yr offrymmodd Ahira mab Enan, tywysog meibion Naphtali.

79Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un phïol arian o ddeg sicl a thri ugain, yn ol y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew, yn fwyd-offrwm:

80Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl-darth:

81Un bustach ieuangc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

82Un bwch geifr yn bech-aberth:

83Ac yn hedd-aberth, dau ŷch, pùm hwrdd, pùm bwch, pùm hespwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Ahira mab Enan.

84Dyma gyssegriad yr allor, gan dywysogion Israel, ar y dydd yr eneiniwyd hi: deuddeg dysgl arian, deuddeg phïol arian, deuddeg llwy aur:

85Deg ar hugain a chant o siclau arian ydoedd pob dysgl, a deg a thri ugain pob phïol: holl arian y llestri oedd ddwy fil a phedwar cant o siclau, yn ol y sicl sanctaidd.

86Y llwyau aur oedd ddeuddeg, yn llawn arogl-darth, o ddeg sicl bob llwy, yn ol y sicl sanctaidd: holl aur y llwyau ydoedd chwech ugain sicl.

87Holl eidionau yr offrwm poeth oedd ddeuddeg bustach, deuddeg o hyrddod, deuddeg o ŵyn blwyddiaid, a’u bwyd-offrwm; a deuddeg o fychod geifr yn offrwm dros bechod.

88A holl ychain yr aberth hedd oedd bedwar ar hugain o fustych, tri ugain o hyrddod, tri ugain o fychod, tri ugain o hespyrniaid. Dyma gyssegriad yr allor wedi ei henneinio.

89Ac fel yr oedd Moses yn myned i babell y cyfarfod i lefaru wrth Dduw; yna efe a glywai lais yn llefaru wrtho oddi ar y drugareddfa, yr hon oedd ar arch y dystiolaeth, oddi rhwng y ddau gerub, ac efe a ddywedodd wrtho.

← Llyfr Numeri 6Read In The App, Free →Llyfr Numeri 8 →

Study Llyfr Numeri 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536