The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 33

1Bod yn rhaid dinystrio y Canaaneaid. Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aipht, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.

2A Moses a ysgrifenodd eu mynediad hwynt allan yn ol eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.

3A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi y Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel y’ngolwg yr Aiphtiaid oll.

4(A’r Aiphtiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)

5A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.

6A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd y’nghwrr yr anialwch.

7A chychwynasant o Etham, a throisant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal-Sephon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.

8A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Marah.

9A chychwynasant o Marah, a daethant i Elim: ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thri ugain o balmwydd; a gwersyllasant yno.

10A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.

11A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.

12Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Dophcah.

13A chychwynasant o Dophcah, a gwersyllasant yn Alus.

14A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Rephidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed.

15A chychwynasant o Rephidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.

16A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth-Hattaafah.

17A chychwynasant o Cibroth-Hattaafah, a gwersyllasant yn Haseroth.

18A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithmah.

19A chychwynasant o Rithmah, a gwersyllasant yn Rimmon-Pares.

20A chychwynasant o Rimmon-Pares, a gwersyllasant yn Libnah.

21A chychwynasant o Libnah, a gwersyllasant yn Rissah.

22A chychwynasant o Rissah, a gwersyllasant yn Cehelathah.

23A chychwynasant o Cehelathah, a gwersyllasant ym mynydd Sapher.

24A chychwynasant o fynydd Sapher, a gwersyllasant yn Haradah.

25A chychwynasant o Haradah, a gwersyllasant ym Maceloth.

26A chychwynasant o Maceloth, a gwersyllasant yn Tahath.

27A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tarah.

28A chychwynasant o Tarah, a gwersyllasant ym Mithcah.

29A chychwynasant o Mithcah, a gwersyllasant yn Hasmonah.

30A chychwynasant o Hasmonah, a gwersyllasant ym Moseroth.

31A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene-Jaacan.

32A chychwynasant o Bene-Jaacan, a gwersyllasant yn Hor-hagidgad.

33A chychwynasant o Hor-hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbathah.

34A chychwynasant o Jotbathah, a gwersyllasant yn Ebronah.

35A chychwynasant o Ebronah, a gwersyllasant yn Esion-Gaber.

36A chychwynasant o Esion-Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.

37A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwrr tir Edom.

38Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fynu i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aipht, yn y pummed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis.

39Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.

40A’r brenhin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y dehau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.

41A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmonah.

42A chychwynasant o Salmonah, a gwersyllasant yn Punon.

43A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.

44A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije-Abarim, ar derfyn Moab.

45A chychwynasant o Ije-Abarim, a gwersyllasant yn Dibon-Gad.

46A chychwynasant o Dibon-Gad, a gwersyllasant yn Almon-Diblathaim.

47A chychwynasant o Almon-Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

48A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

49A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth-Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.

50¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,

51Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;

52Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinystriwch eu holl luniau hwynt; dinystriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.

53A goresgynwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchennogi.

54Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhêwch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ol llwythau eich tadau yr etifeddwch.

55Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch o honynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.

56A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

← Llyfr Numeri 32Read In The App, Free →Llyfr Numeri 34 →

Study Llyfr Numeri 33

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536