The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 26

1Na adawsid un o’r rhai a rifesid yn Sinai, ond Caleb a Josua. A bu, wedi y pla, lefaru o’r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleazar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,

2Cymmerwch nifer holl gynnulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.

3A llefarodd Moses ac Eleazar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,

4Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aipht.

5¶ Reuben, cyntaf-anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phàlu, tylwyth y Phàluiaid:

6O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.

7Dyma dylwyth y Reubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.

8A meibion Phàlu oedd Elïab.

9A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynnulleidfa, y rhai a ymgynhennasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron y’nghynnulleidfa Corah, pan ymgynhennasant yn erbyn yr Arglwydd.

10Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyngcodd hwynt, a Corah hefyd, pan fu farw y gynnulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.

11Ond meibion Corah ni buant feirw.

12¶ Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:

13O Zerah, tylwyth y Zerahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.

14Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.

15¶ Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Sephon, tylwyth y Sephoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:

16O Ozni, tylwyth yr Ozniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:

17O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.

18Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phùm cant.

19¶ Meibion Judah oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.

20A meibion Judah, wrth eu teuluoedd. O Selah, tylwyth y Selahiaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Zerah, tylwyth y Zerahiaid.

21A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.

22Dyma dylwyth Judah, dan eu rhif, onid pedair mil pedwar ugain mil a phùm cant.

23¶ Meibion Issachar, wrth eu tylwythau, oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Puah, tylwyth y Puhiaid:

24O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.

25Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thri ugain mil a thri chant.

26¶ Meibion Zabulon, wrth en teuluoedd, oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.

27Dyma deuluoedd y Zabuloniaid, dan eu rhif; tri ugain mil a phùm cant.

28¶ Meibion Joseph, wrth eu teuluoedd, oedd; Manasseh, ac Ephraim.

29Meibion Manasseh oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.

30Dyma feibion Gilead. O Jeezer, tylwyth y Jeezeriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid:

31Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:

32Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Hepher, tylwyth yr Hepheriaid.

33¶ A Salphaad mab Hepher nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salphaad oedd, Malah, a Noah, Hoglah, Milcah, a Tirsah.

34Dyma dylwyth Manasseh; a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.

35¶ Dyma feibion Ephraim, wrth eu teuluoedd. O Suthelah, tylwyth y Sutheliaid: o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.

36A dyma feibion Suthelah: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.

37Dyma dylwyth meibion Ephraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phùm cant. Dyma feibion Joseph, wrth eu teuluoedd.

38¶ Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd, oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:

39O Sephupham, tylwyth y Sephuphamiaid: o Hupham, tylwyth yr Huphamiaid.

40A meibion Bela oedd, Ard, a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid.

41Dyma feibion Benjamin, yn ol eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bùm mil a deugain a chwe chant.

42¶ Dyma feibion Dan, yn ol eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ol eu teuluoedd.

43A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ol eu rhifedigion, bedair mil a thri ugain a phedwar cant.

44¶ Meibion Aser, wrth eu teuluoed, oedd; o Jimnah, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Berïah, tylwyth y Berïaid.

45O feibion Berïah, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malcïel, tylwyth y Malcïeliaid.

46Ac enw merch Aser ydoedd Sarah.

47Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ol eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

48¶ Meibion Naphtali, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:

49O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.

50Dyma dylwyth Naphtali, yn ol eu teuluoedd, dan eu rhif; pùm mil a deugain a phedwar cant.

51Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chàn mil, a mil saith gant a deg ar hugain.

52¶ A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

53I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ol rhifedi yr enwau.

54I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinhâ yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ol ei rifedigion.

55Etto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant.

56Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.

57¶ A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.

58Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.

59Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aipht: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.

60A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar.

61A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymmasant dân dïeithr ger bron yr Arglwydd.

62A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwrryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ym mysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ym mhlith meibion Israel.

63¶ Dyma rifedigion Moses ac Eleazar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

64Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.

65Canys dywedasai yr Arglwydd am danynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jephunneh, a Josua mab Nun.

← Llyfr Numeri 25Read In The App, Free →Llyfr Numeri 27 →

Study Llyfr Numeri 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536