Llyfr Numeri 36
1Merched Salphaad yn prïodi meibion eu hewythr frawd eu tad. Pennau -cenedl tylwyth meibion Gilead, mab Machir, mab Manasseh, o dylwyth meibion Joseph, a ddaethant hefyd, ac a lefarasant ger bron Moses, a cher bron y pennaduriaid, sef pennau-cenedl meibion Israel;
2Ac a ddywedasant, Yr Arglwydd a orchymynodd i’m harglwydd roddi y tir yn etifeddiaeth i feibion Israel wrth goelbren: a’m harglwydd a orchymynwyd gan yr Arglwydd, i roddi etifeddiaeth Salphaad ein brawd i’w ferched.
3Os hwy a fyddant wragedd i rai o feibion llwythau eraill meibion Israel; yna y tynnir ymaith eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth ein tadau ni, ac a’i chwanegir at etifeddiaeth y llwyth y byddant hwy eiddynt: a phrinhêir ar randir ein hetifeddiaeth ni.
4A phan fyddo y jubili i feibion Israel, yna y chwanegir eu hetifeddiaeth hwynt at etifeddiaeth llwyth y rhai y byddant hwy eiddynt: a thorrir eu hetifeddiaeth hwynt oddi wrth etifeddiaeth llwyth ein tadau ni.
5A gorchymynodd Moses i feibion Israel, yn ol gair yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mae llwyth meibion Joseph yn dywedyd yn uniawn.
6Dyma y gair a orchymynodd yr Arglwydd am ferched Salphaad, gan ddywedyd, Byddant wragedd i’ r rhai y byddo da yn eu golwg eu hun; ond i rai o dylwyth llwyth eu tad eu hun y byddant yn wragedd.
7Felly ni threigla etifeddiaeth meibion Israel o lwyth i lwyth: canys glynu a wna pob un o feibion Israel yn etifeddiaeth llwyth ei dadau ei hun.
8A phob merch yn etifeddu etifeddiaeth o lwythau meibion Israel, a fydd wraig i un o dylwyth llwyth ei thad ei hun; fel yr etifeddo meibion Iseael bob un etifeddiaeth ei dadau ei hun.
9Ac na threigled etifeddiaeth o lwyth i lwyth arall; canys llwythau meibion Israel a lynant bob un yn ei etifeddiaeth ei hun.
10Megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth merched Salphaad.
11Canys Malah, Tirsah, a Hoglah, a Milcah, a Noah, merched Salphaad, fuant yn wragedd i feibion eu hewythredd.
12I wŷr o dylwyth Manasseh, fab Joseph, y buant yn wragedd; a thrigodd eu hetifeddiaeth hwynt wrth lwyth tylwyth eu tad.
13Dyma y gorchymynion a’r barnedigaethau a orchymynodd yr Arglwydd i feibion Israel, trwy law Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, yn agos i Jericho.