The Bible Software
Llyfr Numeri · Beibl (1620)

Llyfr Numeri 8

1Oedran a thymmor eu gwasanaeth hwynt. A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren.

3Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchymynodd yr Arglwydd wrth Moses.

4Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ïe, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ol y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

5¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6Cymmer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanhâ hwynt.

7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhâu; taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnant i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.

8Yna cymmerant fustach ieuangc a’i fwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymmysgu trwy olew; a bustach ieuangc arall a gymmeri di yn aberth dros bechod.

9A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynnulleidfa meibion Israel ynghyd.

10A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.

11Ac offrymmed Aaron y Lefiaid ger bron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.

12A gosoded y Lefiaid eu dwylaw ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech-aberth, a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.

13A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cher bron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.

14A neilldua y Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi.

15Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanhâ di hwynt, ac offrymma hwynt yn offrwm.

16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf-anedig o feibion Israel, y cymmerais hwynt i mi.

17Canys i mi y perthyn pob cyntaf-anedig ym mhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y tarewais bob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.

18A chymmerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel.

19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymmod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cyssegr.

20A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynnulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.

21A’r Lefiaid a lanhâwyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymmodd hwynt yn offrwm ger bron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymmod drostynt i’w glanhâu hwynt.

22Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, ger bron Aaron a’i feibion; megis y gorchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23¶ A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

24Dyma yr hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pùm mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth y’ngwasanaeth pabell y cyfarfod.

25Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ol o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.

26Ond gwasanaethed gyd â’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

← Llyfr Numeri 7Read In The App, Free →Llyfr Numeri 9 →

Study Llyfr Numeri 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536