Llyfr Exodus 11
1Moses yn bygwth Pharaoh â marwoldaeth y cyntafanedig. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Un bla etto a ddygaf ar Pharaoh, ac ar yr Aipht; wedi hynny efe a’ch gollwng chwi oddi yma: pan y’ch gollyngo, gan wthio efe a’ch gwthia chwi oddi yma yn gwbl.
2Dywed yn awr lle y clywo y bobl; a benthyccied pob gwr gan ei gymmydog, a phob gwraig gan ei chymmydoges, ddodrefn arian, a dodrefn aur.
3A’r Arglwydd a roddodd i’r bobl ffafr y’ngolwg yr Aiphtiaid: ac yr oedd Moses yn wr mawr iawn y’ngwlad yr Aipht, y’ngolwg gweision Pharaoh, ac y’ngolwg y bobl.
4Moses hefyd a ddywedodd, Fel hyn y llefarodd yr Arglwydd; Ynghylch hanner nos yr âf fi allan i ganol yr Aipht.
5A phob cyntaf-anedig y’ngwlad yr Aipht a fydd marw, o gyntaf-anedig Pharaoh, yr hwn sydd yn eistedd ar ei deyrn-gadair, hyd gyntaf-anedig y wasanaeth-ferch sydd ar ol y felin; a phob cyntaf-anedig o anifail.
6A bydd gweiddi mawr trwy holl wlad yr Aipht, yr hwn ni bu ei fath, ac ni bydd mwyach ei gyffelyb.
7Ond yn erbyn neb o blant Israel ni symmud ci ei dafod, ar ddyn, nac anifail; fel y gwypoch fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhagor rhwng yr Aiphtiaid ac Israel.
8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
9A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Ni wrendy Pharaoh arnoch; fel yr amlhâer fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aipht.
10A Moses ac Aaron a wnaethant yr holl ryfeddodau hyn ger bron Pharaoh: a’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na ollyngai efe feibion Israel allan o’i wlad.