Llyfr Exodus 28
1Gwisgoedd meibion Aaron. A chymmer Aaron dy frawd attat, a’i feibion gyd âg ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleazar ac Ithamar, meibion Aaron.
2Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch.
3A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i âg yspryd doethineb, am wneuthur o honynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi.
4A dyma y gwisgoedd a wnant. Dwyfronneg, ac ephod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnant wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi.
5Cymmerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.
6¶ A gwnant yr ephod o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, o waith cywraint.
7Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwrr; ac felly y cydir hi ynghyd.
8A gwregys cywraint ei ephod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn un-waith â hi; o aur, sidan glas, a phorphor, ysgarlad hefyd, a llïan main cyfrodedd.
9Cymmer hefyd ddau faen onix, a nâdd ynddynt enwau meibion Israel:
10Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwe henw arall ar yr ail maen, yn ol eu genedigaeth.
11A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, âg enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynau o aur o’u hamgylch.
12A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr ephod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt ger bron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13¶ Gwna hefyd foglynau aur;
14A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig y’nglŷn wrth y boglynau.
15¶ Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr ephod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main cyfrodedd, y gwnei hi.
16Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hŷd, ac yn rhychwant ei lled.
17Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thophaz, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf.
18A’r ail res fydd carbuncl, saphir, ac adamant.
19A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst.
20Y bedwaredd res fydd beryl, ac onix, a jasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd.
21A’r meini fyddant âg enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ol eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ol y deuddeg llwyth.
22¶ A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth.
23Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwrr y ddwyfronneg.
24A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy y ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg.
25A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod y’nglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr ephod o’r tu blaen.
26¶ Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr ephod o’r tu mewn.
27A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr ephod oddi tanodd, tu a’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr ephod.
28A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr ephod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr ephod, fel na ddattoder y ddwyfronneg oddi wrth yr ephod.
29A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cyssegr, yn goffadwriaeth ger bron yr Arglwydd yn wastadol.
30¶ A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn ger bron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, ger bron yr Arglwydd, yn wastadol.
31¶ Gwna hefyd fantell yr ephod oll o sidan glas.
32A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.
33¶ A gwna ar ei godrau hi bomgranadau o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ar ei godrau o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch.
34Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odrau y fantell o amgylch.
35A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei swn ef pan ddelo i’r cyssegr, ger bron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36¶ Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nâdd arni, fel naddiadau sêl, sancteiddrwydd i’r Arglwydd.
37A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd.
38A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gyssegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr ger bron yr Arglwydd.
39¶ Gweithia âg edau a nodwydd y bais o lïan main, a gwna feitr o lïan main; a’r gwregys a wnei o wnïadwaith.
40¶ I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch.
41A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gyd âg ef: ac enneinia hwynt, cyssegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi.
42Gwna hefyd iddynt lodrau llïan i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant.
43A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cyssegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragywyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ol.