Llyfr Exodus 9
1ac er hynny efe a galedir. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
2Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac attal o honot hwynt etto,
3Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.
4A’r Arglwydd a neilldua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Aiphtiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.
5A gosododd yr Arglwydd amser nodedig, gan ddywedyd, Y fory y gwna’r Arglwydd y peth hyn yn y wlad.
6A’r Arglwydd a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliad yr Aiphtiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.
7A Pharaoh a anfonodd, ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharaoh a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.
8¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses ac wrth Aaron, Cymmerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tu a’r nefoedd y’ngŵydd Pharaoh:
9Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aipht; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aipht.
10A hwy a gymmerasant ludw y ffwrn, ac a safasant ger bron Pharaoh: a Moses a’i taenodd tu a’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.
11A’r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
12A’r Arglwydd a galedodd galon Pharaoh, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai yr Arglwydd wrth Moses.
13¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf ger bron Pharaoh, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl bläau ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.
15O herwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th darawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.
16Ac yn ddïau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy yr holl ddaear.
17A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl etto, heb eu gollwng hwynt ymaith?
18Wele, mi a wlawiaf ynghylch yr amser yma y fory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aipht, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.
19Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: phob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.
20Yr hwn a ofnodd air yr Arglwydd o weision Pharaoh, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai;
21A’r hwn nid ystyriodd air yr Arglwydd, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.
22A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tu a’r nefoedd, fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aipht, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aipht.
23A Moses a estynnodd ei wïalen tu a’r nefoedd: a’r Arglwydd a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr Arglwydd genllysg ar dir yr Aipht.
24Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymmeryd y’nghanol y cenllysg, yn flin iawn, yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aipht, er pan ydoedd yn genhedlaeth.
25A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aipht, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.
26Yn unig y’ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.
27¶ A Pharaoh a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr Arglwydd sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol.
28Gweddïwch ar yr Arglwydd (canys digon yw hyn) na byddo taranau Duw na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hŵy.
29A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylaw at yr Arglwydd: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy, fel y gwypych mai yr Arglwydd bïau y ddaear.
30Ond mi a wn nad wyt ti etto, na’th weision, yn ofni wyneb yr Arglwydd Dduw.
31A’r llin a’r haidd a gurwyd, canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu:
32A’r gwenith a’r rhŷg ni churwyd; o herwydd diweddar oeddynt hwy.
33A Moses a aeth oddi wrth Pharaoh allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylaw at yr Arglwydd; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.
34A phan welodd Pharaoh beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision.
35A chaledwyd calon Pharaoh, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith, megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.