The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 26

1Y gaeadlen i’r drws. Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llèn o lïan main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad: yn gerubiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt.

2Hŷd un llèn fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni.

3Pùm llèn a fyddant y’nglŷn bob un wrth ei gilydd; a phùm llèn eraill a fyddant y’nglŷn wrth ei gilydd.

4A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llèn, ar y cwrr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llèn arall, yn yr ail gydiad.

5Deg dolen a deugain a wnei di i un llèn, a deg dolen a deugain a wnei ar gwrr y llèn a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd.

6Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd, fel y byddo yn un tabernacl.

7¶ A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell-lèn ar y tabernacl: un llèn ar ddeg a wnei.

8Hŷd un llèn fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llèn fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llèn ar ddeg.

9A chydia bùm llèn wrthynt eu hun, a chwe llèn wrthynt eu hun; a dybla’r chweched lèn ar gyfer wyneb y babell-lèn.

10A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill lèn, ar y cwrr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llèn arall, yn yr ail gydiad.

11A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chylymma’r babell-lèn, fel y byddo yn un.

12A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni y babell-lèn, sef yr hanner llèn weddill, a fydd y’ngweddill ar du cefn y tabernacl;

13Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hŷd y babell-lèn: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu accw, i’w orchuddio.

14A gwna dô i’r babell-lèn o grwyn hyrddod wedi eu lliwo yn gochion, a thô o grwyn daearfoch yn uchaf.

15¶ A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll.

16Deg cufydd fydd hŷd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen.

17Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer eu gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau y tabernacl.

18A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu dehau, tu a’r dehau.

19A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno.

20A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du y gogledd, ugain ystyllen,

21A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

22Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen.

23A dwy ystyllen a wnei i gonglau y tabernacl, yn y ddau ystlys.

24A byddant wedi eu cyssylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cyd-gydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant.

25A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26¶ Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl,

27A phùm barr i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phùm barr i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tu a’r gorllewin.

28A’r barr canol y’nghanol yr ystyllod, a gyrhaedd o gwrr i gwrr.

29Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd âg aur.

30A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31¶ A gwna wahanlen o sidan glas, porphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd: â cherubiaid o waith cywraint y gwnei hi.

32A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur, a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33¶ A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cyssegr a’r cyssegr sancteiddiolaf.

34Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cyssegr sancteiddiolaf.

35A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu dehau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du y gogledd.

36A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, ac o lïan main cyfrodedd o wnïadwaith.

37A gwna i’r gaeadlen bùm colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt âg aur, a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bùm mortais bres.

← Llyfr Exodus 25Read In The App, Free →Llyfr Exodus 27 →

Study Llyfr Exodus 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940