The Bible Software
Llyfr Exodus · Beibl (1620)

Llyfr Exodus 15

1Deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain, yn Elim. Yna y canodd Moses a meibion Israel y gân hon i’r Arglwydd, ac a lefarasant, gan ddywedyd, Canaf i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn rhagorol iawn: taflodd y march a’i farchog i’r môr.

2Fy nerth a’m cân yw yr Arglwydd; ac y mae efe yn iachawdwriaeth i mi: efe yw fy Nuw, efe a ogoneddaf fi; Duw fy nhad, a mi a’i dyrchafaf ef.

3Yr Arglwydd sydd ryfelwr: yr Arglwydd yw ei enw.

4Efe a daflodd gerbydau Pharaoh a’i fyddin yn y môr: ei gapteniaid dewisol a foddwyd yn y môr coch.

5Y dyfnderau a’u toisant hwy; disgynasant i’r gwaelod fel carreg.

6Dy ddeheulaw, Arglwydd, sydd ardderchog o nerth; a’th ddeheulaw, Arglwydd, a ddrylliodd y gelyn.

7Ym mawredd dy ardderchowgrwydd y tynnaist i lawr y rhai a gyfodasant i’th erbyn: dy ddigofaint a anfonaist allan, ac efe a’u hysodd hwynt fel sofl.

8Trwy chwythad dy ffroenau y casglwyd y dyfroedd ynghyd: y ffrydiau a safasant fel pentwr; y dyfnderau a geulasant y’nghanol y môr.

9Y gelyn a ddywedodd, Mi a erlidiaf, mi a oddiweddaf, mi a rannaf yr yspail; caf fy ngwynfyd arnynt; tynnaf fy nghleddyf, fy llaw a’u difetha hwynt.

10Ti a chwythaist â’th wynt; y môr a’u todd hwynt: soddasant fel plwm yn y dyfroedd cryfion.

11Pwy sydd debyg i ti, O Arglwydd, ym mhlith y duwiau? pwy fel tydi yn ogoneddus mewn sanct eiddrwydd, yn ofnadwy mewn moliant, yn gwneuthur rhyfeddodau?

12Estynaist dy ddeheulaw; llyngcodd y ddaear hwynt.

13Arweiniaist yn dy drugaredd y bobl y rhai a waredaist: yn dy nerth y tywysaist hwynt i anneddle dy sancteiddrwydd.

14Y bobloedd a glywant, ac a ofnant: dolur a ddeil breswylwyr Palestina.

15Yna y synna ar dduciaid Edom: cedyrn hyrddod Moab, dychryn a’u deil hwynt: holl breswylwyr Canaan a doddant ymaith.

16Ofn ac arswyd a syrth arnynt; gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o’th bobl di, Arglwydd, nes myned o’r bobl a ennillaist ti trwodd.

17Ti a’u dygi hwynt i mewn, ac a’u plenni hwynt ym mynydd dy etifeddiaeth, y lle a wnaethost, O Arglwydd, yn anneddle i ti, y cyssegr, Arglwydd, a gadarnhaodd dy ddwylaw.

18Yr Arglwydd a deyrnasa byth ac yn dragywydd.

19O herwydd meirch Pharo, a’i gerbydau, a’i farchogion, a aethant i’r môr, a’r Arglwydd a ddychwelodd ddyfroedd y môr arnynt: ond meibion Israel a aethant ar dir sych y’nghanol y môr.

20¶ A Miriam y brophwydes, chwaer Aaron, a gymmerodd dympan yn ei llaw, a’r holl wragedd a aethant allan ar ei hol hi, â thympanau ac â dawnsiau.

21A dywedodd Miriam wrthynt, Cenwch i’r Arglwydd; canys gwnaeth yn ardderchog; bwriodd y march a’r marchog i’r môr.

22Yna Moses a ddug Israel oddi wrth y môr coch; ac aethant allan i anialwch Sur: a hwy a gerddasant dri diwrnod yn yr anialwch, ac ni chawsant ddwfr.

23¶ A phan ddaethant i Marah, ni allent yfed dyfroedd Marah, am eu bod yn chwerwon: o herwydd hynny y gelwir ei henw hi Marah.

24A’r bobl a duchanasant yn erbyn Moses, gan ddywedyd, Beth a yfwn ni?

25Ac efe a waeddodd ar yr Arglwydd; a’r Arglwydd a ddangosodd iddo ef bren; ac efe a’i bwriodd i’r dyfroedd, a’r dyfroedd a bereiddiasant: yno y gwnaeth efe ddeddf a chyfraith, ac yno y profodd efe hwynt,

26Ac a ddywedodd, Os gan wrandaw y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, ac os gwnei di yr hyn sydd uniawn yn ei olwg ef, a rhoddi clust i’w orchymynion ef, a chadw ei holl ddeddfau ef; ni roddaf arnat un o’r clefydau a roddai ar yr Aiphtiaid; o herwydd myfi yw yr Arglwydd dy iachawdwr di.

27¶ A daethant i Elim; ac yno yr oedd deuddeg ffynnon o ddwfr, a deg palmwydden a thri ugain: a hwy a wersyllasant yno wrth y dyfroedd.

← Llyfr Exodus 14Read In The App, Free →Llyfr Exodus 16 →

Study Llyfr Exodus 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334353637383940